Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llyfr y Tri Aderyn.pdf/36

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

barnu ei henafiaid, i bod nhwy yn nhân uffern, ac er hynny son a wnant am gariad perffaith.

Er. Mi wn amcan beth y mae nhwy yn ei ddywedyd. Rwyti yn cam gymmeryd ei geiriau. Úchel yw Paradwys, a dwfn yw uffern, nid oes fawr etto yn y byd canol ymma yn canfod yn eglur pa rai sydd yn y ddau fyd eraill. Ac am ei henafiaid, gobeitho maent fod cynnifer o honynt ac a wnaethant yn ol yr hyn a wyddent, wedi dychwelyd i lochesau'r Arch, ond nad digon i'r oes ymma fod fel y nhwy; canys fe edrychir[1] am lawer oddiwrth y rhai a dderbyniasant lawer.

Cig. Ond mae llawer o opiniwnau newyddion, ac o heresiau dinistriol, ymysg yr adar anyscedig ymma.

Er. Pa bethau yw y rheini? Ni chredai mo bob chwedl; gâd i mi weled am llygad fy hunan, ac yna mi a farnaf.[2]

Cigf. Ond siwrach i ti gredu y Doctoriaid dyscedig? ac os parant i ti ddial, gwna heb ruso.

Er. Nid felly. Mi welais yn amser Mary, Elizabeth, Iago a Charles olaf, ac er hynny hyd yn hyn, nad oedd ond y trecha treisied, a llawer o waed gwirion a dywalltwyd i geisio ystwytho cydwybodau y rhain. Ond mae'n rhaid i ebill athrawiaeth fynd o flaen morthwyl rheolaeth, rhag hollti'r pren, neu blygu'r hoel.

Cigf. Gwrando dithau, O! Eryr tywysogaidd, Pam yr wyti yn gwarafun i'r cigfrain fynd ar ol ei meddyliau, ai cydwybodau? Yr wyti yn dwyn ein llyfr gwasanaeth oddiarnom, ac yn ein llwytho ni a threthi trymion yn ol dy ewyllys dy hun, ac yn gwneuthur gwaeth na'n bygwth, onis talwn hyd adref.

Er. Am y trethi: Er na ŵyr y gigfran cystal a'r Eryr beth sydd i'w wneuthur i fantumio arfau a llongau i gadw heddwch, etto rhaid i ti dalu teyrnged, ac ymostwng i'r awdurdod sydd arnat, ac oni bai fod y cigfrain hyd yn hyn yn yscymun, ni bydde raid wrth filwyr, na threthi i'w mantumio. Pan ddyscech di fod yn llonydd fe yscafnheir y trethi. Ond am lyfr dy wasanaeth, mi chwedleuaf yn y fan a'r Golomen, i

  1. Zech. i Luc. xii. 48.
  2. Esay xi. Math. xv. 14.