Er. Yn yr hyn y mae nhwy ar fai nid wyfi yn dadleu drostynt; ac ni all neb ond Noah farnu calonnau yr holl adar. Ond yr wyti yn barnu calon y golomen, i bod hi yn ddrwg, a phawb yn gweled wrth dy liw, a'th lais, a'th weithredoedd di, dy fod ti yn ddrwg dy hunan.
Cigf. Ni allai aros clywed y gerdd ymma. Attolwg gâd lonydd i mi i ehedeg llei mynnwyf?
Er. O aderyn cyfrwysddrwg, gwell gwrando na chael dy ladd. Ond fe lâs a gafas rybudd. Mae arnai fy hun eisiau cael fy nysgu. Ond er na wn i fawr, rwi yn rhwymedig i roi i ti gynghor, a thithau yn rhwym i wrando ar fy llais.
Cigf. Na feia ormod arnafi: Pa warrant oedd genniti, os gwiw gofyn, i dorri pen y Brenin, ac i symmud Parliamentau wrth dy bleser dy hun, fel na ŵyr fawr yr awron i bwy yr ymostwng i dalu teyrnged. Ac mi welaf fod teyrnas heb reolwyr fel corph heb. ben, a phawb yn gwneuthur a fynno ef ei hunan.
Er. Geirwon yw geiriau'r Gigfran. Ond gwrando. er hynny ar reswm. Mae yspryd rheolaeth fyth yn parhau, a'r sawl na phlycco iddo a ddryllir. Mae Noah yn rhoi rheolaeth i'r sawl a fynno; yn gostwng y naill, ac yn codi'r llall o'r 'dommen[1] i reoli. Nid oedd Gideon, a Saul, a Dafydd, ond gwŷr gwael ar y cyntaf yn y byd. Ac o'r tu arall, mae efe yn chwythu ymmaith bennaethiaid y byd, fel llwch y llawr dyrnu[2] i'r dommen, canys nid yw efe yn derbyn wynebau dynion; nid yw'r holl ddaiar ond stôl draed iddo. [3]Mae efe yn rhychwantu y ffurfafen, ac yn dal y môr mawr ar gledr ei law, ac yn pwyso y mynyddoedd mewn cloriannau; ac os bydd un gwr mawr[4] yn rhy yscafn, mae efe yn i roddi heibio; ond mae efe yn edrych ar yr isel, ac yn cynnal y galon dorredig.
Cigf. Mi welaf y teyrnasoedd yn berwi fel ped faent grochanau ar y tân. Ond beth a ddaw, dybygi di, O! Eryr, ar ol hyn?
Er. Ni wn i fy hun, mi gaf wybod gan y golomen: