Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llyfr y Tri Aderyn.pdf/39

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ond rwi'n tybied y ceir etto fyd gwell nag a gaed erioed, canys yn y nef a'r ddaiar newydd fe erys cyfiawnder.

Cigf. Ond oni weli dy hunan fod y byd yn myned waeth waeth, a chariad perffaith yn treio?

Er. Na sonia di am gariad perffaith, O! gigfran amherffaith. Beia arnat dy hun yn gyntaf, ac yna [1]mae gobaith o honot. Oni weli di fod yr haul yn cledu'r clai? a pha dwymna y tywynno ar y dommen, brynta fydd mae'r da yn myn'd wellwell ymhob oes erioed, a'r drwg yn mynnu mynd waethwaeth.

Cigf. Mi welaf dy fod ti fyth yn ffafrio y colomennod: oni wyddosti i bod nhwy yn ymlusgo i deiau, ac yn gwneuthur drygioni gyda'i gilydd?

Er. A fuost ti yn erioed yn i mysg nhwy, i weled beth y mae nhwy yn i wneuthur?

Cigf. Na fum; ac nid wyfi ar fedr bod mor ffôl a myned yn agos attynt iw cyfarfodau hwynt.

Er. Oni buost, pa ham yr wyti yn i cyhuddo?

Cigf. Mi glywais lawer yn dywedyd nad oes dim daioni iw gael wrth fod yn ei mysg nhwy.

Er. Mi wrantaf mai rhyw gigfrain eraill a ddywad y chwedl ymma i ti am danynt hwy.

Cigf. Beth os ê? Mi gredaf i synwyr un gigfran o flaen cant o golomenod. Ond mae nhwy yn gwadu'r yscrythyrau, a phob daioni.

Er. Pam y maent hwy, wrth hynny, yn i darllain mor fynych? Ond odid di dy hun sy'n gwadu'r scrythyrau, ac heb edrych arnynt unwaith yn y pedwar amser, nag heb i darllain o'r tu fewn chwaith, iw dangos mewn gweithred oddiallan.

Cigf. Ond pobl dwyllodrus ydynt hwy; nhwy a ddywedant yn dêg, ac a weddiant weddiau hirion, na thalant ddim wedi'r cwbl.

Er. Ni ofynnwn i'r golomen beth a atteb hi drosti i hun. Beth a ddywedi di wrth hyn ?

Col. Gwell yw na ddyweder dim wrth rai direswm: ond gwir yw, yr ydym ni yn ymgyfarfod yn fynych, yn

  1. Esay xi