Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llyfr y Tri Aderyn.pdf/42

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ysgogiad yn tewychu y peth sydd ynddo, ac yn gadel heibio (fel pren ei ddail, neu ddyn ei boeryn) y peth nad yw un ag yspryd y galon. Wele, nid yw'r cigfrain yn adnabod tarawiad y tant ymma yn y delyn nefol. Ond deall di, O Eryr, ac fe a ddeall y colomennod hyn fwyfwy. Canys fel dymma wreiddyn y matter, a ffynnon pob peth. Dymma fôn derwen yr holl fyd gweledig hwn. Dymma y cynhyrfiad tragwyddol sydd yn achosi pob symmudiad ymysg yr holl greaduriaid. Ond nid yw'r adar ar ganghennau'r pren yn meddwl pa fodd y mae'r gwreiddyn yn cynnal ei naturiaeth, a nhwythau ynddi. Yr ewyllys cyntaf yw gwreiddyn[1] pob un (fel y mae'r wreichionen yn dyfod o'r garreg) ac mae efe ei hun yn ymgyrchu yn wastad i fonwes y Mab, ac yn ymlonyddu yno yn y cariad; ond mae llawer o'r gwreichion heb fynnu ymoeri felly, ond yn ehedeg gyda Luciffer yn erbyn y goleuni a'r tawelwch tragwyddol, ac yn aros yn yr yscogiad tanllyd, heb gael esmwythdra byth, eisiau dyfod iw geisio allan o'i naturiaeth ei hunain. Mae gallu yn yr ewyllys i ysgog, ond nid oes mor ewyllys gyda gallu i ddychwelyd (fel y dywad y gigfran o'r blaen ran o'r gwir.) Am hynny, mae llawer yn i gwrthod ei hunain, ac yn achwyn ar Noah. Ac er bod i fonwes ef yn i chwennych, mae ei monwes danllyd hwynt yn i dal yn ei teyrnas ei hunain. Ond, O Eryr, os cofi di ofyn ymhellach am hyn, pan fôm ni wrthym ein hunain yn y distawrwydd, mi ddangosaf yn helaethach wreiddyn pob dirgelwch. Ond yr awron dos ymlaen i chwedleua ar gigfran.

Er. Beth a ddywedi (O! hen gigfran) wrth hyn i gyd!

Cigf. Dwfn yr awron yw rheswm y golomen. Ac mae'ch geiriau chwi weithiau agos a'm gorchfygu i. Ond (myn rhywbeth) ni byddafi un o honochi byth. Er hynny, rwi'n tybied be clywai y cigfrain eraill gymmaint ac a glywais i, nhwy ddoent i fod o'r un grefydd a chwithau.

Er. Galw di arnynt i wrando arnom ni.

  1. Mat. iii. 10.