Cigf. Na wnaf (dybygwn i): galwed y sawl a fynno arnynt: galw dy hunan os mynni.
Er. Wrth hynny nid wyti yn chwennych daioni i ti dy hun, nag i neb arall.
Col. Gad iddi, O Eryr, y rhai a achubir a elwir. Ac dyma newydd da i rai o'r cigfrain, sef bod gan Noah gelfyddyd ryfedd i droi cigfrain yn golomennod. Ac yn ddiammau fe ai gwna[1] ac yno ni elwir mwy monynt yn gigfrain ymysg adar. Mae efe yn gwneuthur y gwaethaf yn orau, ac yn gadel y blaenaf i fod yn olaf.[2]
Er. Ond gad i mi chwedleua ychydig a'r gigfran. Pa newydd sydd genniti o'r tu hwnt i'r môr?
Cigf. Mae'r colomennod ymma yn hedeg ym mhob teyrnas, ac arwydd drwg yw hynny na saif y brenhinoedd. Mae llawer o honynt hwy yn Holland, a rhai yn Ffrainc, ac ymbell un yn Hispaen, ac nid yw dda gennif i gweled nhwy ymhob man yn hedeg iw ffenestri; mae nhwy hefyd mor gyflym, nad oes un gwalch yn abl iw dal nhwy.
Er. Ond beth y mae'r cigfrain eraill yn i ddywedyd yn y gwledydd rheini?
Cigf. Mae'r hên rai yn gweled fod tro mawr ar fyd yn agos, a'r cigfrain ifaingc yn dwndrio ac yn cymmeryd ei pleser.__ Mi fum yn Rhufain y dydd arall, ac yno mi welwn y Pâb yn crynnu yn ei gadair; mae hi yn llawn bryd i mi i edrych yn fy nghylch.
Er. A ydyw efe ymmysg y Crynwyr? Pam y mae efe yn crynnu?
Cigf. Mae rhyw brophwydoliaethau yn i ddychrynu ef. Ond mae efe yn danfon ar hyd ac ar led i geisio cadw ei blâs i fynu, ac er hynny syrthio y mae: mae ganddo yn ei nyth y cigfrain cyfrwysaf yn y byd, ac mae rhai o'r tywysogion, fel pilerau, yn ceisio i gynnal, ond mae y rhan fwyaf yn bwdr yn y gwreiddyn, ai grefydd yn drom ar ei hyscwyddau hwynt.
Er. A oes genniti ddim newydd am y Twrk, ac am yr Iddewon?