Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llyfr y Tri Aderyn.pdf/44

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cigf. Oes; mae'r Twrk yntau yn rhythu llygaid, ac mae nhwy yn ofni mai'r Twrk sydd yr awron a fydd yr olaf. Mewn gwledydd eraill, mae afonydd a llynniau yn troi yn waed, ac mae rhyfeddodau ofnadwy yn yr wybren, fel ped fai diwedd pob peth yn agos. Beth a ddaw o honom ni pan loscer y byd? Ond am yr Iddewon, mae nhwy yn edrych am seren forau, ac ar fedr codi etto uwchlaw'r holl fryniau, ac eistedd ynghadair y byd. Ac rwi'n tybied fy hun y cânt hwy godiad rhyfedd.

Er. Pam yr wyti yn meddwl felly?

Cigf. Am y caiff yr isaf fod yn uchaf, canys mae'r byd yn troi fel olwyn certwyn.

Er. A oes dim newydd o'r Werddon, ac o Scotland?

Cigf. Nag oes ond bod sŵn mawr yn ei mysg, a'r colomennod ar yr aden ymhob mann etto. Ond mi ddywedais ormod o newydd i ti yn barod, a siwrach a fuasai i mi dewi.

Er. Mae gennif ddiolch am dy newydd. Dos rhagot. Gwych yw clywed beth a ddywetto pob aderyn.

Cigf. Nid oes ond hynny. Ond bod pilerau'r byd yn siglo, a'r tân a'r rhyferthwy ymhob gwlad o amgylch (oni bai hynny mi a gawswn help rhyw rai yn Lloegr cyn hyn). Ond os dywedaf wrthyt gyfrinach, fe a glyw'r golomen.

Er. Mi wrantaf y gŵyr hi fwy na hyn ond a oes obaith o fyd da yn dy dyb di?

Cigf. Mi ddywedais o'r blaen fy meddwl, nad oes ymhob man ond y trechaf treisied, a'r gwanaf gwichied. Nid fy ngwaith i yw ymresymmu fel hyn, ond dangos i ti mor felldigedig yw'r genhedlaeth ymma o golomennod sydd yn codi ei pigau, ac rwi'n tybied y dylit ti a nhwythau gwympo allan ai gilydd; a dyna fy holl neges i. Mi ddywedwn air wrth y golomen (oni bai fod yn scorn gennif) y dylai hithau edrych am ei bywyd, a sefyll ymhell oddiwrthit, ac nid wrth dy glûn di yn y modd yna. Eryr wyti, ac nid oes i'r adar mor ymgellwair a'th ewinedd llymion di.

Er. Mi wn i lawer o'm henafiaid ladd llawer o golomennod; ond nid wyfi ar fedr neidio cyn edrych, na phigo ni wn i pwy, nag am ba beth.