Cigf. Ped fawn i ymma gyda'th di lawer mîs, mi fedrwn ddangos newydd bob awr. Ond mae arnai
chwant burgunnod, ac fe alle fod rhyw rai yn llosgi fy nyth i. Gâd i mi fyned bellach.
Er. Nage, nid ei di oddi yna nes dywedyd mwy o'th feddwl.
Cigf. Beth a fynni di gyd am fi ond hynny?
Er. Oni buost di y dydd arall yn Llundain yn clustfeinio, beth a glywit ti?
Cigf. Do; Mae yn Llundain bob mâth o adar, fel mewn coed tew (pob aderyn a'i lais). Mae yno lawer o golomennod cyflym, ac hefyd o gigfrain duon, heb ddim newid lliw arnynt. Yr oeddynt yn sôn y llosgid Llundain; ond er maint y sôn, mae hi etto yn sefyll, fel y mae pethau eraill; llawer darogan a dwyllodd ddynion, ac er hynny nid ydym ni yn i alw yn ffals brophwyd. Canys nid ffals neb a'n bodlono ni.
Er. Beth a ddyscaist ti yn Llundain?
Cigf. Yr oeddwn i wrth fod allan yn yr heol yn clywed y dwndrwyr yn siarad, ond ni ddyscais i fawr, am nad oedd rheswm yn i chwedlau; yr oeddynt hwy yn rhuo uwchben ei pottiau, fel sŵn tonnau'r môr, neu ddaiar-gwn yn cyfarth. Yr oedd trwst gwragedd yn ymgennio yn ei mysg, a rhyferthwy fawr o eiriau, fel İlîf mewn afon, yr oedd gan bob un ddwy glust, ac un tafod, a hwnnw ei hun yn dywedyd mwy nag a glywse y ddwy glust, a mwy nag a welse y ddau lygad. A phan welais i hwynt yn seler dywyll ei hynfydrwydd, mi aethym heibio iddynt yn llawen ei gweled felly. Ac ni wyddent hwy mwy nag anifeiliaid. A phed fai y dynion hyn yn cerdded ar ei pedwar aelod, a'r blew yn tyfu drwyddynt, ac heb fedru dywedyd dim mwy nag assyn Balaam, fe dybygai ddynion rhesymol mai anifeiliaid direswm ydynt, y rhai a wnaed iw dal, ac iw difetha.
Er. Mi wn fy hun, fod llawer o lwynogod cyfrwys, ac o gathod gwylltion, ac o anifeiliaid peryglus rhyd y gwledydd, ac yn Llundain hefyd. Ond rwi'n gofyn i ti beth yr oedd gwŷr doethion Llundain yn ei ddywedyd ?