Cigf. Yr oeddent hwy yn dywedyd yn isel. Ac er bod gennif glust fel aderyn arall, ni wyddwn i beth a ddywedent: er i mi ddescyn ar grib, neu ar fargod y tŷ, ni chawn i glywed fawr.
Er. Ond beth yw'r ychydig a glywaisti?
Cigf. Dwfn a dirgel yw cynghorion stâd. Nid yw'r gwerin gwirion ymysg yr adar yn deall monynt.
Er. Ond a wyti dy hun yn ei deall?
Cigf. Nag ydwyf yn iawn. Nid oes chwaith neb yn nheyrnas Loegr, nag yn ninas Lundain yn ei ddeall ei hunan. Y peth a wnelont heddyw mae rhyw yspryd yn ei ddad-wneuthur y foru. Ni wela i ddim yn dyfod i ben yn ôl meddyliau dynion, ond mae rhyw droell arall yn troi uwchlaw synwyr pawb. Mae'r ûs yn ymgasglu, a chorwynt disymmwth yn i chwalu. Mae'r prŷf copyn yn hir yn gweu ei rwyd, a rhyw blantos yn yscubo'r cwbl i lawr, a hynny mewn munud awr. Mae'r bobl (ar a wela i), mewn odyn galch, neu fel plant yn gwneuthur tai bach ym min afon, a'r llifeiriant yn ddisymmwth yn codi, ac yn yscubo'r cwbl. Mae rhyw nerth ym mysg dynion yr awron nad oedd o'r blaen. Mae rhyw yspryd rhyfedd yn gweithio, er nad yw'r bobl yn gweled. Rwi'n dywedyd hyn wrthyt ti yn erbyn fy ewyllys, ac yn ol fy nghydwybod.
Er. Pa fodd y gelli di wneuthur felly?
Cigf. Mae llawer yn dywedyd yn erbyn ei cydwybod, ac yn ôl ei hewyllys, a rhai yn llefaru yn erbyn ei hewyllys, ac yn ôl eu cydwybod; felly yr wyf finnau yr awron, er nad wyfi yn arfer hynny.
Er. Pa ymryson sydd rhwng y gydwybod a'r ewyllys ?
Cigf. Mae'r gydwybod yn llefaru, Di a ddylit wneuthur fel hyn, a'r ewyllys yn dywedyd, Mi fynnaf wneuthur hyn accw. Ond yr ydym ni yn rhy fynnych yn dilyn ein hewyllys, ac yn gadel ein cydwybod.
Er. Ond beth, meddi di, yw'r gydwybod.
Cigf. Tyst oddifewn, Goleuni'r adar, Canwyll dynion, Llais yn ein holrhain, Gwalch Noah, Scrifennydd buan, Cynghorwr dirgel, Cyfaill tragywyddol, Gwledd wastadol i rai, a phryf anfarwol mewn eraill. Ond nid