da gennif chwedleua gormod am y gydwybod ymma.
Er. Pam hynny?
Cigf. Am nad gwiw i mi geisio i dilyn. Ped fawn i yn dilyn fy nghydwybod, mi geisiwn fod fel y golommen, ond ni allai aros hynny.
Er. Wele, di ddywedaist ddigon, a gormod yn dy erbyn dy hunan. Mi welaf fod y brain yn myned yn erbyn ei cydwybodau eu hunain cystal ac yn erbyn y colomennod.
Cigf. A wyti ar fedr fy rhannu i ynof fy hun, a gosod fy nghydwybod yn erbyn fy ewyllys?
Er. Rwyti felly yn barod (meddi di); ond dywaid i mi pa'r un ai dy gydwybod ai dy ewyllys a beru hwyaf ?
Cigf. Och fy nghydwybod: canys nid wyfi'n barod yn cael mo'm hewyllys. Ac mae arnai ofn y cai lai o hono, pan goder i'm barnu.
Er. Fy nghyngor i fydde i ti edrych am y peth a barhatho yn hwyaf, a gochel y peth a dderfydd. Canys er melysed fo, ni thâl ef ddim oni pheru fo ond munud awr.
Cigf. Bei gallwn i hynny, mae fy ewyllys yn i erbyn.
Er. Blin yw dy gyflwr, a blin wyt tithau yn dy gyflwr; ni allafi, ond fe all un, dy helpu Er hynny, dywaid y gwir, nid yw hynny ddim ar fai.
Cigf. Bei dywedwn i yr holl wir, gwir yw y dywedwn i lawer yn fy erbyn fy hunan.
Er. Gwyn ei fyd ai gwnelo, ac a blycco i ddaioni. Di wyddost mai gwell yw'r wialen a blycco, na'r hon a dorro o eisiau irder a rhywiogrwydd. Mae cyfraith naturiaeth yn dyscu dynion i fyned ar ol ei goleuni ei hunain. Rheswm a chydwybod yw dau lygad dyn naturiol, a'r dyn a dynno ei lygad ei hun allan o'i enaid fe ddyle'r barnwr i gospi, nid am nad yw fo yn mynd ar ôl opiniwn crefyddol y llywodraethwr, ond am i fod ef yn mynd yn erbyn ei reswm ei hun. Ac os gwnei di yn erbyn dy oleuni, rwyti yn dy gosbi dy hun oddifewn, ac yn peri i'r swyddogion oddiallan dy gosbi hefyd.
Cigf. Ni allai wrtho. Gwnewch a fynnoch, chwi