Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llyfr y Tri Aderyn.pdf/48

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yw'r arglwyddi dros amser gosodedig. Ond os daw fyth ar fy llaw i, mi ai talaf i'r colomennod.

Er. Drwg yw hynny. Gâd i un ddial, ac na fydd fel y mae llawer dyn; fel tarw gwyllt mewn rhwyd, neu gî cynddeiriog mewn cadwyn. Maddeu di i bawb, canys mae Noah yn barod i faddeu i ti, os doi di yn ôl. Ond nid gwiw (medd rhai) ganu i'r byddar, na rhoi cynghorion i'r cyndyn.[1] Rhaid yw cael gwialen i gefn y ffyliaid. Ond mi dybygwn y dylit ti wybod pwy a'th wnaeth.

Cigf. Nid wyfi yn ymofyn fawr am hynny, ond mi wn i mi ddyfod allan o'r arch. Ac ymma yr wyfi yr awron, pa le bynnag y bwyf ar ôl hyn, pwy a ŵyr hynny.

Er. Di dy hunan a ddylit fynnu gwybod; canys. hir yw byth; gwerthfawr yw dy fywyd; fe wnaed yr arch i'th gadw di yn fyw. Na chymmer mo'th wenwyno gan y cigfrain eraill, na'th dwyllo gan y sarph gnawdol.

Cigf. Fy nhwyllo, meddi di. Os oes neb o honom. yn twyllo ei gilydd, myfi sydd yn i twyllo nhwy; canys myfi yw un o'r rhai hynaf yn y byd. Ond gâd i mi fyned o'r diwedd. Pa hyd y pery y byrdwn ymma?

Er. Aros ychydig. Gorau canwyll pwyll. Gorau synwyr athrawiaeth. Gorau cyfrwystra i ddyn i wadu ei hun. Gorau meddyg, meddyg enaid. Gorau defod daioni. Ac hefyd, mae yn bossibl i'r gwaethaf ddyscu bod yn orau (fel y dywedodd y golomen o'r blaen). Onid wyti yn cofio y diarhebion gynt: Ardd cyd bych,. ardd cyn ni bych. Deu-parth y gwaith yw dechrau. Ond na âd i'r nos waethaf fod yn ddiwaethaf. Ni thawdd dled er ei haros. Na chais elw o esceulustra. Na chais fynd i'r nef wrth fod yn chwerw. Na chais fwrw coel ar dy gelwydd. Na chais ddim lle nis dylech. Gwae oferwr yn y cynhauaf. Oni heuir ni fedir, oni. fedir ni fwyteir. Ceisied pawb ddwfr iw long. Ac yr awron (O hen gigfran) onid wyti yn cofio y diarhebion hyn?

  1. Diar. xxvi. 3.