Cigf. Aros dippyn. Mi welaf mai diharebwr wyti. Mi dybygswn ddarfod i chwi a'r colomennod anghofio diharebion y doethion, a'r henafiaid. Ond mi glywaf rai ar flaen eich tafodau. Mi henwaf finnau hên rai eraill. Lledled rydau, waethwaeth ddeddfau. Na choll dy hên ffordd er y newydd. Y nesaf i'r eglwys pellaf oddiwrth y baradwys. Llawer têg drwg ei ddefnydd. Angel pen ffordd, diawl pen tân. Addaw mawr a rhodd fechan. Pen punt, a llosgwrn dimme. Da yw'r maen gyda'r efengil. Drych i bawb ei gymmydog. Pob cyffelyb a ymgais. Digrif gan bob aderyn ei lais. Hawdd cynneu tân yn lle tanllwyth. Ac ni chêl drygtir ei egin. A drwg un, drwg arall. Drwg pawb oi wybod. Mal y dyn y bydd ei lwdn. Natur yr hwch yn y porchell. Rhy dynn a dyrr. Rhy uchel a syrth. Gwnaed aelwyd ddiffydd yn ddiffaith. O chaiff yr afr fynd i'r eglwys, hi â i'r allor. Dymma rai o'r diharebion dyscedig sydd yn rhedeg yn fy meddwl innau.
Er. Ni fedri di dy hunan ddeongli dy ddiharebion. Nid yw dy galon di yn deall mor peth y mae dy dafod di yn i ddywedyd. Mi fedrwn atteb i bob dihareb ar a henwaist, ond mi a'th attebaf mewn hen ddiharebion eraill: Mae gwehilion i'r gwenith. Nid gwradwydd gwellhau. Ymryson a'r ffol, di a fyddi ffolach. Gwell tewi na drwg ddywedyd. Gwell pren na dyn cyhuddgar. Gwell cî da na dyn drwg. Hwyr (er hynny) y gellir dyn o'r dyniawed dû. Ond dewis ai'r iau ai'r fwyall. Dysg hyd angau, ac angau i'r sawl ni ddysco. Ni wyr ni ddysg. Ni ddysg ni wrendy. Ni wrendy ond y doeth tawedog. Camwrando a wna cam ddywedyd. A hir y cnoir tammed chwerw. Er heddwch nag er rhyfel, gwenynen farw ni chasgl fêl. A'r mûd a ddywaid y gwir. A llawer o ddoethineb a fu gynt ymysg y Bruttaniaid.
Cigf. Doeth y dywedaist. Ond beth yw'r Bruttaniaid mwy nag eraill?
Er. Os drwg, gwaethaf. Os da, ffyddlon. Dyma'r ynys a dderbyniodd yr efengil gyntaf yn amser Lles fab Coel. Ymma (medd rhai) y ganwyd Helen, a'i