Col. Geiriau sobrwydd yr wyfi yn i traethu. Nid magl i'r cyffylog yw synwyr y cnawd, ond i'r aderyn doethaf daiarol. Y dynion naturiol gorau a gollir. Am hynny, gocheled pawb ei synwyr ei hun. Ni fedr anifail hoyw ehedeg, ag nid ysprydol yw'r naturiol, er gwyched fo yngolwg dynion. Mae llawer o bregethwyr yn anghymeradwy ac yn golledig.[1] Ei hathro yw synwyr y cnawd. Maent yn scrifennu ei pregethau, ond oni bai gyflog dynion, ni wnaent bwyth o waith; ac er hynny fel gweinidogion yr efengil y mynnent ei hanrhydeddu. Ac heb law y dyscawdwyr deillion, nid oes. mewn tref nag wlad ddyn llwyd, llwm, anllythrennog, nad oes sarph yn ei fonwes, a synwyr y cnawd yn ei galon.
Er. Nid rhyfedd wrth hyn fod llawer yn golledig, os yw pob dyn fel nythed o nadroedd yn llawn o feddyliau cnawdol. Ond beth a ddywaid y från wrth hyn?
Cigf. Dymma daro at y gwreiddyn. Os drwg gynghorwr, drwg ganlynwr. Os tywyll goleuni rheswm, mae'r holl gorph yn dywyll, a phob gair ar a ddywedais. i erioed yn ofer Ond (om rhan i) rwi'n tybied fod rheswm ymhob peth, ac mai rheswm naturiol yw'r goleuni gorau. Dymma wreiddyn y pren a blannwyd yn ddwfn. Diwreiddied y golomen ef, os gall.
Col. Mi wn mai dymma Salomon y byd, ond mae yspryd gwirion y golomen yn fwy na Salomon yn ei holl ogoniant ai ddoethineb. Ond i ddangos i ti ddoethineb ddaiarol y frân, ei synwyr hi yw hyn, Dalied pawb ei eiddo, cippied pawb a allo; safed pob dyn ar ei waelod ei hun; na ddyweded mor gwir mewn cariad, ond mewn creulondeb; na ddringed uwchlaw rheswm dyn; canlyned y byd ai arfer; maged ei naturiaeth, ai gnawd, ai waed, a gwaried ei amser mewn trythyllwch. Bwyttaed ac yfed, a bydded lawen; bodloned bawb er i fwyn ei hun; bydded ganddo ddau wyneb yn barod, ai galon yn ddauddyblyg; bydded gall drosto ei hunan, onid e marw a wna. Ond dymma ffolineb y byd; dymma ynfydrwydd pen agored, canys nid call y dyn
- ↑ 1 Cor. ix. 27.