Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llyfr y Tri Aderyn.pdf/55

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ai ceisio ei hun. Y sawl sydd a dau wyneb gantho, mae un o'r ddau yn gythreulig: y neb a wenhieithio i ddynion sydd bwdr yn ei galon. Hawdd yw bwytta, yfed, a chwarae gormod, a dawnsio yn y cnawd ar ôl pibell yr ysbryd drwg. Ysbryd y gwaed yw cwmmwl y meddwl. Arfer y byd yw'r porth llydan i ddestryw. A'r sawl na ddringo uwch ei law ei hun, ni eistedd fyth yn y Nefoedd. Mae'r dyn difyr, chwerthinog, allan o'i gôf ei hun, ac o'r tu fewn i gôf y sarph. Amser dyn yw ei gynnyscaeth, a gwae ai gwario yn ofer. Rhaid yw dofi yspryd y cnawd, a magu bywyd ysbryd yr uchaf. Boddi a wna'r dyn na nofia yn erbyn ffrwd y wlad. Y rheswm uchaf yw'r afreswm isaf. Ni saif neb ond un arno ei hun. Nid eiddo neb ei hunan. Cadwed pawb ei galon at Dduw. Adrodded pob un ei gydwybod yn ddoeth. Cladded dyn ei reswm ei hun. Ond dyma iaith nad oes nemmor yn ei deall. Nag ofned neb arall cymmaint ag ef ei hun. Oni fedri roi taw ar eraill, distawa dy hun. Pan fo mwyaf swn yn y byd, bydded lleiaf yn dy galon. Nag ofna ddiafol na char y pechod, ac na chynnwys dy hun. Na ddalied ysbryd y creadur di, ond nofia i Ysbryd y Creawdwr. Cyfrif y da o'th flaen yn berl, a'th waith o'th ôl yn dom. Melys i'r cnawd yw siwgwr diafol, ond bwytta di y manna dirgel. Mochyn yw Luciffer yn ymdreigio ynghawd dyn. Crochan hwn yw calon fudr yn berwi ar dân uffern. Gwŷniau'r cnawd ynt feirch o ryfel; descyn oddi arnynt, ac nag oeda. Perthen o ddrain yw rhesymmau dyn, ai gwado ei hun a ddiangc o honi. Portha dy chwant, ac fe a'th ladd. Llei mae dynion mae angelion, llei mae angelion y bydd dynion. Y sawl sy'n byw ynddo ei hun, sy'n byw allan o fonwes y Tad. Ŏni elli achub eraill, diangc dy hun oddiwrthit dy hun. Gwell yw adnabod y galon yn y byd ymma, nai bod hi yn adnabod digofaint byth. Pa fodd y gelli fod yn llonydd oni byddi ar y graig? Nid gwaeth beth a ddywedo ffyliaid, nid ei gair nhwy y saif.

Er. O Golomen, dymma ddiharebion newyddion. Yr oedditi gynne yn son am ynnill y frân, ond fe alle fod hyn yn i gwylltio hi ymhellach.