Col. Ni ellir wrth hynny. Oni ynnill y gwir hi, nid oes dim a'i hynnill. Llawer sy'n croeni briw pwdr, ond fe a dŷr allan gwedi. Mae llynger ym monwesau dynion, onis lleddir, hwy a laddant.
Er. Helpa'r från, fel y gallo hi wybod hyn ynddi ei hun.
Col. Nid wyfi yn gwthio ar arall y peth yr wyfi yn ei ganfod. Oni bydd tyst oddi fewn, nid yw rhesymmau genau ond rhaffau gwellt. Er hynny mae rhyw dorriad anrhaethadwy yn fy nghalon i wrth feddwl am golledigaeth dyn, ac wrth edrych arno yn ddall, yn fud, yn fyddar, yn dlawd, yn noeth, yn glwyfus, yn gloff, yn glaf, ie yn farw.[1] Och, Och, a dyfna Och yw tewi!
Er. Onid oes help i'r frân er hyn i gyd?
Col. O, na wele hi y goleuni[2] mewn cariad! Ond mae ef etto[3] yn guddiedig oddiwrthi. Er hynny mae golwg i'r dall, a iechyd i'r difeddyginiaethol. Mae'r porth cyfyng etto heb i gau, ac mae yn bossibl myned i mewn. Dymma'r amser. Dymma'r dydd. Mae fe yn passio fel breuddwyd nôs, neu saeth o'r llinyn; a phan dorrer llinyn y bywyd, ni ellir moi glymmu eilwaith byth.
Er. Ond beth os pechodd hi y pechod na faddeuir mono yn y byd ymma nag yn byd a ddaw?
Col. Nid oes neb yn pechu felly, ond y rhai maleisus sydd yn rhyfela yn erbyn ei goleuni ei hun,[4] ac yn ffieiddio daioni mewn eraill, ac yn gwybod mai daioni yw, ac hefyd yn parhau fel hyn yn [5]gynddeiriog hyd ddiwedd ei heinioes. Am hynny, rwi'n rhybuddio pawb, ac yn gweiddi ar bawb: Na thybygwch fod drws y drugaredd wedi ei gau yn eich erbyn tra fo anadl ynoch, ac ewyllys i ddychwelyd. Ond yr ydych etto yn dilyn y cnawd, yn canu carolau i gyffroi eich chwantau, yn darllain llyfrau bydron, anllad, ac yn gwenwyno y gwreiddyn pur; yn dilyn tafarnau, a thablerau, a llwon, a melldith, a gwawd, a gwatwar; yn caru chwarwyddfa diafol (fel eidionnau uffern); yn dibrisio'r tlawd, yn byw yn hoyw yn nhommen masweidd-dra, yn