Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llyfr y Tri Aderyn.pdf/57

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwatwar sobrwydd; ac yn y tân du, anweledig, yngwely'r buttain, mewn gwleddau a glothineb, mewn meddwdod a chwerthin, mewn cydorwedd a chywilydd, mewn cenfigen ac anfodlonrwydd, mewn rhyfig a chyfrwystra, mewn gwae a gwaelod erchyll, Deffro, Cyfod. Mae etto i ti groeso. Mae gwledd nefol yn aros am danat. Mae bara ddigon yn nhŷ dy_Dad. Pa ham y byddwch feirw, O! blant dynion? Pa ham y collwch chwi eich eneidiau yn yr och tragywyddol?

Er. Yr ydym ni yn gwrando ar hyn i gyd, ac nid yw hyn ond sŵn geiriau ynghlustiau llawer.

Col. Sŵn yw hwn a bery byth, fel twrwf taranau tragwyddol, mewn llawer cydwybod sydd yr awron yn gwrando ar y pethau hyn yn ddifyr, ai calonau yn esmwyth, ac yn chwerthinog; fe gyfyd hyn yn eich erbyn ddydd a ddaw, chwi wrandawyr diofal. Rhaid oedd i mi i ddywedyd, er i hyn fod yn dyst yn eich herbyn. A phwy bynnag wyti sydd a'r pethau hyn gennit yn dy law, neu yn dy glust, rwi yn rhoi siars arnati erbyn y dydd mawr sydd yn agos, ar i ti ddangos a danfon y pethau hyn ar hyd ac ar led, ymysg y Cymry, a'th holl gymydogion, ac na chuddia, na chela (dan dy berigl) mo hyn oddiwrth eraill,

Cigf. Ha! Nid yw hyn i gyd ond bygythion a breuddwyd y golomen, Ni a fyddwn llawen tra fom. Ac ymmaith a'r meddyliau ymma i ffwrdd allan o'r meddwl,

Col. Nhwy a ddeuant i mewn eilwaith, er i ti wneuthur dy waethaf iw cadw allan. Nid ydis nes er anghofio'r gwir, Oni wrandewi di, fe a wrendy eraill, ac a edifarhant, ac fe a'i cedwir hwynt, ac a'th losgir di.

Er. Gwrando, O! Gigfran, rhaid i mi o'r diwedd dy holi di yn ddwysach. Pam na ddoi yn ôl at dy Arglwydd?

Cigf. Mi welaf dy fod ti yn fy erbyn i yn hollawl. Ond cymmer Noah a'i Arch rhyngot ti a'r golomen, Minneu a wn p'le cai fy swpper. Mi glywaf sawyr burgunnod ar y ddaiar,

Er. Fe dderfydd y rheini o'r diwedd, ac yno fe dderfydd am danat tithau.