Er. A wyddosti pa fodd y bydd dydd y farn?
Col. Nid diwrnod fydd o bedair awr ar hugain mwy na'r diluw. Ond fe ddaw i losci y byd crin ymma fel y darfu golchi y byd brwnt o'r blaen.[1]
Er. A losgir y nef ar ddaiar yn lludw ar y cyntaf, yn nechreuad dydd y farn?
Col. Na wneir, mwy nag y troes y diluw y byd yn ddim, canys rhaid yw bod adferiad, cyn bed dinystriad, pob peth.[2] A rhaid i'r greadwriaeth gael Sabbaoth o orphwysdra cystal a dyn, a hyn y mae'r holl brophwydi er dechreuad y byd yn son am dano, a hyn y mae pob creadur yn ochneidio ar i ôl.[3]
Er. Pa arwyddion a fydd cyn dechrau dydd y farn?
Col. Fe ddigwydd rhagarwyddion y dwfr diluw. Fe fydd y byd yn llawn bryntni cnawdol, a ffolineb naturiol, a chammau anesgorol.[4] Pawb yn erthwch dan ei faich, a llawer yn dilyn trindod y byd tywyll ymma.
Er. Oni loscir ar y cyntaf yr holl anifeiliaid?
Col. Na wneir mwy nag yn y diluw y boddwyd. Ac ychydig ddynion a achubir, ie ni achubir neb i gyd, am fod cnawd i'w losgi [5]gan bawb. Pan oleuo'r dydd, y ceir gweled hyn yn eglurach, a deall yn well pa fath ddiwrnod fydd dydd y farn olaf. Gwell yw selio y genau na dywedyd geiriau ofer iw llosci, neu iw llyngcu; os disgwyli am y diwrnod yn iawn, di gei i weled yn ei wawr.
Er. Ond pa fodd yr achubir y gweddillion o'r dynion?
Col. Wrth i codi i'r awyr uwchlaw'r tân (fel Noah i'r Arch [6]uwchlaw'r dwfr); sef, wrth i hadgyfodi a'u hescyn oddi wrth yr ysbrydoedd meirw, i gyfarfod a'r Arglwydd.
Er. A ymladd dynion ar ol gweled y tân cyntaf?
Col. Ymladd a Duw (mewn meddwl) a wna'r. colledig byth. Buan yr anghofiwyd y diluw, ac [7]yr aethont