i adeiladu Babel, ac i foelystotta ar ol Nimrod. Ac er bod angelion yn nhŷ Lot, fe [1]fynnai gwŷr Sodom (bes gallasent) i mochi. Da yw côf Duw, yr hwn sy'n canfod ac yn cynnwys pob peth ar unwaith hyd y diwedd a thu hwnt i'r diwedd. [2]Ond drwg yw cof dyn, yr hwn mewn munud awr sydd wedi gwerthu [3]mawr waith Duw, allan o'i law ai goffadwriaeth ei hunan.
Er. Ond, a wyddost ti pa bryd y dechrau dydd y farn?
Col. Nid yw Noah yn rhoi cennad i weled yr awr a'r dydd dan y chweched sêl. [4]Ond o ddechreuad y byd hyd y diluw, yr oedd mil a chwechant ac un mlynedd ar bymtheg a deugain: felly, mi a'th gynghoraf (O Eryr) i ddisgwil, canys mae fo yn agos. Mae Sion yn escor hefyd yn ei mynydd, a'r droell fawr ddiwaethaf wedi dechreu troi yn barod yn y byd.
Er. Beth a ddaw ar ol y tân cyntaf?
Col. Fel ar ol y dwfr diluw, yn gyntaf fe wnaed cyfammod [5]arall a'r holl greaduriaid; yn ail, fe roddwyd [6]cyfraith newydd i warafun tywallt gwaed; yn drydydd, fe wiscwyd dyn a mawrhydri ag arglwyddiaeth i ddechrau byd newydd. Mi ddangoswn i ti, O! Eryr, law[7]er mwy yn hyn, ond dymma ddigon i'r call dros yr awron.
Er. Ond. Pam yr wyti yn dywedyd mai cyffelybiaeth o Dduw oedd Noah?
Col. Un yw ef yn ymgenhedlu yn Dri. Efe yn unig oedd [8]berffaith, a'r holl fyd yn ymdrolio mewn celwydd; ac oi gariad at ei blant yn benaf, ac at bawb, fe barotôdd Arch i gadw cynnifer ac a ddoent iddi, a'r rhai a [9]appwyntiwyd a ddaethant i mewn, ac a gadwyd.
Er. Ond er hynny, gŵr pechadurus oedd Noah. Pa fodd y gallei efe fod yn arwydd o'r hwn sydd ddibechod?
Col. Fel yr oedd Salomon yn arwydd o'r Mab. [10]Nid yn ei bechod yr oedd efe yn arwydd, ond yn ei berffeithrwydd.