Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llyfr y Tri Aderyn.pdf/62

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

allant gytuno ai gilydd, nes [1]iddynt gymmodi yn gyntaf a'r hwn ai gwnaeth, a dychwelyd at Noah i'r Arch gyntaf.

Er. Ond pa beth yw'r Arch, meddi di, yn y dirgelwch?

Col. Immanuel. Yr Achubwr. Yn yr Arch ymma yr oedd tair cell (sef swm pob naturiaeth); fel y mae ysbryd ac enaid a chorph. Ymma yr oedd lletty i bob creadur o bob rhyw, canys y cyntaf anedig o bob creadur yw. Oni bai iddo ymadeiladu ynghnawd dyn, [2]a dioddef diluw digofaint, ni buase un cnawd cadwedig, na dyn nag anifail yn cael ei anadl dros awr. Allan o Arch y wirionedd ymma y mae'r holl adar drwg yn ehedeg, fel y cwympodd yr angelion gynt i'r môr mawr (sef yspryd naturiaeth) i ymborthi ar y burgunnod meirw, y rhai yw eneidieu pechaduriaid truain.

Er. Pa beth yw'r drws a egorwyd yn ystlys yr Arch.

Col. Y briw ynghalon yr Oen ar y groes, o'r hwn y daeth allan ddwfr a gwaed, i lonni ac i lanhau dyn,[3] ac mae'r briw hwnnw etto yn agored i'r dynion bryntaf.

Er. Ond yn yr arch yr oedd casglfa o ymborth i gadw yn fyw bob anifail.

Col. Felly y mae yn Immanuel, nid yn unig ymborth i bechaduriaid, ac i seinctiau, ond hefyd i'r angelion nefol, ïe, mae ynddo ef fwyd i fywyd yr holl greaduriaid. Oni bai hynny, ni byddai un byw. [4]Canys ynddo ef, medd Paul, y mae pob peth yn cydymgynnal, fel yr oedd pob byw yn yr Arch.

Er. Pa fodd y mae bod yn gadwedig drwyddo ef?

Col. Wrth adgyfodi gydag ef, uwchlaw tonnau chwantau a rhesymmau y cnawd.

Er. Ond mae llawer yn dywedyd mai trwy fedydd y mae i ddyn fod yn gadwedig: ac mae llawer o son yr awron am y bedydd.

Col. Mae bedydd adfyd, hwnnw yw erlidigaeth; mae hefyd fedydd dyfrllyd, hwnnw yw bedydd y Bedyddiwr gynt, yr hwn a bassiodd fel y seren forau. Gyd a hynny mae bedydd tanllyd ysbryd y gwrth-

  1. Es. xi.
  2. Col. i.
  3. Ioan xix. 34
  4. Col. i. 17.