Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llyfr y Tri Aderyn.pdf/63

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iau. [1]Ond bedydd Christ yw'r un bedydd mawr, a hwnnw yw'r dwfr nefol yn yr ailenedigaeth. Heb hwn, gwae ddyn. [2]Arwydd o hwn oedd yr Arch yn y dwfr diluw; ac fel yr oedd rhan o honi uwchlaw'r dwfr, a rhan is i law, felly fe ddioddefodd y Messiah yn y cnawd, ac fe a gyfiawnhawyd yn yr ysbryd, a'i hiliogaeth ynddo. Ac fel y codwyd yr Arch uwchlaw [3]bryniau, a'r anifeiliaid a'r dynion colledig, felly y mae'r seinctiau ar y ddaiar yn eistedd ym Mharadwys yn y nefolion,— [4]fel yr oedd yr Ephesiaid ysbrydol.

Er. Ond dywaid i mi, pa fodd y gostegodd gwynt y dwfr diluw, canys mae gwynt fynychaf yn codi tonnau.

Col. Gwaith oedd hwn yn erbyn rheswm llawer: ac am hynny, na roed neb le i'r meddyliau duon; canys pan ddelo Ysbryd y Nef i mewn, efe a ostega (drwy ostwng) y dwfr diluw sydd yn dy galon di, ac yno di gei weled pennau y bryniau, a'r meddyliau tragwyddol, cariadus, yn ymddangos o'r tu fewn. [5]Gwir yw i'r gwynt lonyddu'r dwfr, ac i'r clai a'r poeryn roi [6]golwg i'r dall, ac i Isaac farw [7]genhedlu miloedd, ac i'r Oen o'r [8]bedd ffrwythloni drwy'r byd. Mae'r Goruchaf yn galw y goleuni allan o'r tywyllwch, yn troi cyscod angau yn foreuddydd,[9] yn peri i ganol nos fod fel canol dydd, yn diwreiddio dyn allan o hono ei hun iw blannu byth, yn gwneuthur y gwenwyn cryfaf yn ymborth diogelaf, yn dwyn uwchder o'r dyfnder a dyfnder i'r uwchder, yn cadw y colledig, ac yn colli y rhith gadwedig. Mae efe yn gweithio tu hwnt i feddyliau dynion ac uwchlaw doethineb angelion. [10]Gogr yw cwrs natur yn ei law ef, a gwych ganddo wneuthur gwyrthiau.

Er. O! Golomen dirion, mi welaf fod Noah wedi caniadhau i ti wybod mwy na myfi, er bod fy llygaid i, wrth naturiaeth, yn cyrhaedd hefyd; ac am hynny, y sawl a [11]fynno fod yn sicr o'i iechydwriaeth,

  1. Eph . iv. 5.
  2. I Pet. iii. 21.
  3. I Pet. iii. 18.
  4. Eph. ii. 6.
  5. Gen. viii. I.
  6. Ioan ix. 6.
  7. Heb. xi. 12.
  8. Ioan xii. 24.
  9. Amos v. 8.
  10. Es. xxx. 28.
  11. I Cor. iii. 18.