bydded fel baban bach, allan o hono ei hun, yn barod i ddyscu y llythyrennau cyntaf. Canys y rhai y mae Duw yn i dyscu, ac yn i danfon, mae nhwy yn ehedeg dros bob peth, ac yn deall naturiaethau. Ac am hynny, yr wyfi yn gofyn i ti, A ydiw'r dwfr dros yr holl fyd? Oni welaisti na choed, na chawr, na chastell, na chraig, ai pennau uwchlaw'r dwfr?
Col. Na ddo un, ymhedair rhan y byd. Canys rhaid yw boddi pob cnawd, ac nid oes dim a all achub dyn ond yr Arch a wnaeth Noah, sef yr Iesu, a'r Immanuel-Duw gyda ni yn ein cnawd.[1]
Er. Beth yw hynny? a ydyw efe yn ein cnawd ni?
Col. Ydiw, os ydym ni yn ei Ysbryd ef. Oblegid mae'r ewyllys yn y gair, a'r gair yn y nerth, a'r nerth a'r gair a'r ewyllys nefol (fel y dywedais o'r blaen) yn aros [2]ynghalon pob dyn a'r a gedwir.
Er. Ond nid oes fawr yn meddwl am hyn.
Col. Ped faent yn gwybod pwy sy'n aros ynddynt, ni chae [3]chwant a phechod mor dyfod i mewn i blâs y galon, llei mae'r boneddigion nefol yn swpperu.
Er. Ond pwy sy'n aros yn y rhai drwg?
Col. Ysbryd anufudd-dod (Diafol a Luciffer) yn cadw llys agored i'r holl chwantau drwg, a [4]neuadd gauad yn erbyn daioni ymhob meddwl tywyll. Ac fel y mae pob calon fudr yn grochan i'r [5]cythrel, ar dân uffern, felly mae efe yn ofalus i gadw tânwydd dano.
Er. Oni ŵyr y pechadur pwy sydd yn aros ynddo?
Col. Na ŵyr, mwy nag y mae'r muriau meirwon yn adnabod y trigianydd.[6] Canys ni fŷn dyn weled y carnlladron o bechodau[7] sydd yn llechu ynddo, fel y gweli di'r genegoegion a'r pryfed mewn pwll drewllyd.
Er. Gâd hyn heibio yr awron. O ba le y daeth yr holl ddwfr i foddi yr holl fyd?
Col. Allan o drysorau y Goruchaf. Efe a rwygodd y dyfnder mawr [8]ynghalon y greadwriaeth oddi tanodd, ac a egorodd ffenestri element y dwfr oddiarnodd; a rhwng y ddau ddwfr yn un, fe orchfygwyd pob cnawd