er dewred oedd. Ac ar ddydd y farn olaf, fe [1]ddaw tân ysbrydol, a thân naturiol, i farnu ac i brofi'r byd, oddiwrth [2]y Goruchaf, yr hwn sydd ganddo yn ei Trysordŷ y tân, a'r gwres, [3]a'r gwynt, a'r glaw, a'r ôd, ar [4]rhew. Ac ni all un cnawd aros na'i wres[5] na'i oerni ef. Ac fel y gwnaed corph dyn o bedwar defnydd (sef tân, awyr, dwfr, a daiar), felly ni all un corph cnawdol spario yr un o'r pedwar, na byw ar awyr heb ffrwyth y ddaiar, nag yn y gwres heb ddwfr, nag yn y dwfr heb y tri eraill: am hynny, fe foddwyd pob peth a'r yr oedd anadl y bywyd ynddo, ac fe ddygwyd ysbryd pob cnawd nad oedd yn yr Arch dan gaethiwed y dwfr.
Er. Pam y deuai y dwfr ymma i foddi dynion, druain, heb roi rhybudd i fod yn dyfod, fel y gallent i ochel?
Col. Nhwy gawsant rybydd i gyd gan Noah (pregethwr cyfiawnder): [6]ond roedd yr holl fyd yn chwerthin am ei ben ef, er bod pob dyrnod morthwyl yn bregeth yn galw ar y byd cyndyn i'r Arch.
Er. Pa hyd y parhaodd ei chwerthiniad hwynt?
Col. Nes gweled o honynt ffynonnau y dyfnder mawr wedi i torri,[7] a ffenestri'r nefoedd wedi i hagori, a'r Arch wedi i chodi allan o'i cyrhaedd hwynt. Ac yna y dychryn erchyll a'i daliodd nhwy, fel gwewyr gwraig yn escor; ac am na fynnent moi helpu o'r blaen, ni ellid moi helpu yr awron.
Er. Ond pa fodd y gwariasent hwy ei hamser o'r blaen?
Col. Yn bwytta, ac yn yfed, yn cysgu, yn caru, ac yn ymbriodi.[8] Nid yn ei gwadu ei hunain, ond yn i gwychu ei hunain, ac yn chwerthin am ben Noah ai dylwyth.
Er. Oni ellid i helpu er hyn i gyd?
Col. Na ellid o'r diwedd, am [9]i bod wedi gadael i'r amser bassio; ac mae amser i bob peth dan yr haul.