llestr; ac mae gan Dduw lawer o foddion i achub ei waredigion, ond cofia fyth nad Tebah, na Groeg, nag Ebrew yw gwreiddyn yr yscrythurau.
Er. Ond mae rhai yn dywedyd mai'r Arch yw'r eglwys: ac mae gwŷr duwiol, dyscedig, o'r meddwl hwnnw.
Col. Yr un yw'r pen a'r corph, yr un yw'r gwreiddyn a'r 1canghennau, yr un yw'r gwr a'r wraig,2 a'r ysbryd a'r enaid, a'r tân yn y tanwydd; yr un yw yr hwn a sancteiddir a'r hwn a sancteiddia; ac yr un yw Christ a'i eglwys, yr hon sydd gnawd o'i gnawd, ag ysbryd o'i ysbryd. Y sawl sydd yn Nghrist mae efe yn y wir eglwys hefyd. Fe a dynnwyd Efa allan o Adda, a'r eglwys o Ghrist, a Christ o gnawd yr eglwys, a'r eglwys. eilwaith o ysbryd Christ. Mae llawer yn son am lawer math ar eglwys, canys mae'r holl fyd yn dŷ i Dduw, ac uffern a lenwir hefyd, canys mae efe yn preswylio. drwy bob peth. Nid yw eglwysydd y plwyfolion ond yscuboriau gweigion; llawer eglwys blwyf sydd fel corlan geifr a buarth gwarchae defaid. Mae'r eglwysydd. eraill o ddynion fel anifeiliaid brithion, cylchfrithion, mawrfrithion a mânfrithion Jacob.4 Nid oes fawr etto. yn siarad iaith bur Israel, ond mae tafodiaith y ddeubar bobl yn ein mysg (fel y dywaid Nehemiah.) Mae'r wefus uchaf yn Israel, a'r wefus isaf o Ashdod, mae'r bobl mewn Babel. Mae'r eglwysydd yn gollwng defni, a'r distiau yn pydru. Mae rhai, yn sicr, fel y canhwyllbrenni aur, eraill o bres, eraill o blwm, ac er hynny canhwyllbreni ydynt oll. "Mae rhai o honynt yn frenhinesau, eraill yn ordderchwragedd, ond nid oes. ond ymbell un yn aros yn y tŷ gyda Mab Duw; ac am hynny, nid eglwys ond yr ysbrydol, nid ysbryd ond yr Ail Adda, nid teml i Dduw ond meddwl pur dyn, nid teml barhaus i ddyn ond yr Hollalluog a'r Oen, nid undeb ond undeb yr ysbryd tragywyddol, nid canu, nid cymmun, nid uno, nid gweddio, nid ymaelodi mewn un eglwys, oni bydd Ysbryd y Pen yn rheoli
1 I Cor. vi. 17. + 2 Eph. v. 31, 32; Mat. xix. 6. . 3 Heb. iI. II. 4 Gen. xxx. 5 Nehem. xiii. 24 6 Can. vi. 8. 7 Gal. iv. 30.