mewn nerth. Canys proffesu maent i bod yn adnabod Duw, ac yn ei gweithredoedd yn gwadu fod Duw wedi i caru, ac yn ei gweled, ac i'w barnu. Am hynny, diangc di allan o honot dy hunan, ac o'r hen balasau plwyfol, ac o'r hen eglwysydd pwdr, rhag iddynt 2gwympo arnat, ac i tithau gwympo danynt i'r bedd a'r pwll.
Er. Fe barwyd pygu yr Arch, beth yr oedd y pŷg hwnnw yn ei arwyddoccau i ni.
Col. Fe ai gelwyd Copher (ond nad yw ieithoedd ond fel llais cogfrain, er bod llawer yn dotio arnynt). Y pŷg yw'r heddwch, a'r cytundeb rhwng dyn a'r hwn ai gwnaeth, sef drwy ffydd ynghyfiawnder un arall.3 A'r hwn sydd yn iawn gredu, mae efe wedi i glymmu, a'i bygu, i ddilyn y wir eglwys, ac nid i adel i'r byd ddyfod i mewn iddo.4
Er. Di ddywedaist o'r blaen beth oedd y drŵs. oedd ar yr Arch, ond beth hefyd yr oedd ffenestr yr Arch yn i arwyddo?
Col. Goleuni'r Ysbryd Glan, heb yr hwn y mae. dyn fel tŷ yn llawn mŵg, heb un ffenestr arno i ollwng goleuni i mewn, ac ym mŵg naturiaeth mae'r gwybed uffernol yn hedfan. Y golau ymma sydd fel ffenestr o risial. Mae'r haul o'r nef yn discleirio drwyddi. Ond nid yw'r dall yn gweled mor ffenestr na goleuni'r byd. Ac ni all neb ganfod y Duwdod ond drwy'r Tad, na'r Tad ond drwy'r Mab, na'r Mab ond drwy'r Ysbryd, na'r Ysbryd ond drwyddo ei hunan. Mae efe yn agoryd ffenestr yn y nef fel y gallo dyn weled y peth sydd ym 7monwes ac ym meddwl yr Oen: mae efe hefyd yn agoryd un arall yn y galon i ddyn, i weled ei stafell ei hun, 8ac i hwnnw mae'r Yscrythurau yn agored hefyd.
Er. Ond beth yr oedd y tair cell yn i ddangos?
Col. Tair rhan dyn, sef ysbryd, ac enaid, a chorph; tair stâd yr Eglwys, dan y Gyfraith, dan yr Efengil, ac hefyd dan y Nefoedd Newydd; tair cell yn gwneu-
1 Tit. i. 16. 2 Dat. xviii. 3, 4. 3 Rhuf. iii. 26 4 Iago i. 27 5 Esay liv. 12. 6 Mat. xi. 27. 7 1 Cor. ii. 16. 8 Luc xxiv. 23.