lawr yn ei law. Mae rhan o'r enfys yn wyrddlas i ddangos ddarfod boddi'r byd mewn dwfr, a rhan o honi yn gochfelen i ddangos y lloscir y byd a thân etto.
Er. Ond pa fodd wrth hynny y mae dial wedi darfod, a'r bwa a'i ddaupen tuag i wared?
Col. Ewyllys y Goruchaf yw na phecho dyn yn i erbyn, ac na bo rhaid iddo yntau ddial. Ond tra parhatho pechod mewn dyn, edryched ar yr enfys, a 1dianged rhag y tân sydd yn dyfod.
Er. Ond fe fu agos i mi ac anghofio dywedyd i ti fod rhai yn ymofyn pa fodd y gwnaeth Noah yr Arch.
Col. Mae llawer o seiri ar waith, ac ychydig o'r rheini i hunain yn gadwedig; llawer sydd o filwyr, o lywodraethwyr, ac o bregethwyr, fel seiri, y rhai yn y diwedd a fyddant anghymeradwy. 2Am hynny, gweithied dyn ei ichydwriaeth ei hun mewn ofn a dychryn. Ac am y peth a ddywedaist dy fod ti ar anghofio hyn, mae llawer peth ynghylch yr Arch nad wyti yn i gofyn, na minnau yn i hatteb.
Er. O! Golomen dirion, dangos mewn ychydig eiriau beth yw dirgelwch yr Arch.
Col. Yn ddiddadl, mawr yw dirgelwch yr Arch; mawr yw cyfrinach Duwioldeb; Duw a ymddangosodd yn y cnawd, a gyfiawnhawyd yn yr ysbryd, a welwyd gan angelion, a bregethwyd i'r cenhedloedd, a gredwyd iddo yn y byd, a gymmerwyd i fynu mewn gogoniant,3 ac a ddaw eilwaith mewn anrhydedd mawr, ac am dano ef yr ydym ni yn disgwil.
Er. Wele, da yr attebaist. A chan ein bod ni ymma gyda'i gilydd, mewn llonyddwch, mi âf rhagof.
Col. O! Eryr, gochel gythruddo pan chwilier gwaelod dy friw, fel y gwna llawer; cares cythryblaeth 4yw anwybodaeth; a fo diddig fydd dyscedig.
Er. Mae hyn yn digio llawer, fod y ffolaf yn barnu'r doethaf, ac yn dywedyd yn erbyn y peth ni ddeallant.
Col. Gwae a alwo y goleuni yn dywyllwch. Ond mae rhai nefol yn canfod Ecclips (neu Drwnn) ar y
1 Mat. iii. 7. 2 Phil. ii. 12. 3 1 Tim. iii. 16. 4 Psal xxv. 9.