lleuad naturiol, heb yr un ar yr haul ysbrydol. Mae'r creadur yn ymlusco ar ôl ei oleuni: oni weli di y prenniau yn tyfu heb ymglywed a'r bywyd sydd mewn anifeiliaid? Mae'r anifeiliaid yn symmud heb adnabod y rheswm sydd mewn dyn. Mae dynion yn ymgoethi heb ddeall y ffydd sydd mewn seinctiau ar y ddaiar. Mae nhwythau hefyd heb ddeall fawr o fywyd angelion, a'r angelion sanctaidd ei hunain heb allel cwbl weled pa fodd y mae'r Un mewn Tri yn byw. Ac am hynny (fel y dywedais o'r blaen) dod i bob peth ei le hun, ac di elli weled yn hawdd nad yw synwyr naturiol yn medru nofio na hedeg i Arch Noah. Oni weli di y gwŷr duon dyscedig yn ymdrabaeddu yn chwant y cnawd, ac yn boddi yn ysbryd y gwaed, a rhai o'r bobl anllythrennog yn hedeg ac yn cippio castell teyrnas nefoedd drwy drais,2 tra fo y rhan fwyaf yn cippio drwy drais bethau'r byd ymma.
Er. Ond er hynny, mi welaf yr un diwedd yn digwydd i'r naill ac i'r llall. Marw y mae'r duwiol yn y diwedd, ac nid yw'r annuwiol ond marw hefyd.
Col. Gwir yw fod corph y naill yn huno yn Nghrist, ond mae corph y llall yn pydru gyda'i enaid, fel y mae'r naill long yn boddi yn nhonnau'r môr, a'r llall yn hwylio drwyddynt. Pan fo dyn duwiol yn ymadel a'r byd, nid yw fo ond gadel ei wîsg, fel Joseph yn nwylaw gwraig Potiphar, honno yw'r ddaiar. Ac mae Haul y Cyfiawnder yn sugno gwres yr enaid hwnnw allan o'r corph, ac yn gadel y cnawd (fel gloyn du) iw orchymyn i'r bedd. Ac fe a godir cyrph (neu natur 4gorphorol) y rhai duwiol, fel y cyfyd yr haul yn ei ogoniant a'i nerth. Ond am y lleill fe fydd ei cyrph moethus hwynt fel tommen i'r cythreuliaid i ymdrybaeddu ynddi yn dragywydd.
Er. Er hynny, onid oes adgyfodiad i gyrph y rhai gwaethaf?
Col. Fe gynhyrfir gwreiddyn pob naturiaeth unwaith etto, ond ni thâl ei cyffroad nhwy o'r bedd mo'i
1 Psal. x. 4. 2 Mat xi. II. 3 Gen. xxxix. 4 I Cor. xv. 43. 5 Es. lxvi. 24.