Col. Ni all neb hedeg yno, ond y sawl sydd yn rhedeg allan o hono ei hunan, sef allan o'i ewyllys, a'i gyfrwystra, a'i ddiweddion, a'i lwybrau ei hunan. Mae Paradwys nid ymhell oddiwrthyt, ond ymhob mann llei mae cariad Duw yn ymddangos. Ac mae'r holl golomennod cywir ynddi, yn clywed geiriau anrhaethadwy, ymysg myrddiwnau o angelion, ac ysprydoedd perffaith. Ac hefyd, o'r tu arall, mae uffern, a'r tân, a'r nâd, a'r tywyllwch ynghalonnau llawer tra font ymma yn rhodio ar y ddaiar.
Er. Ond gâd i mi ofyn i ti. Onid oes un nef nag uffern ond sydd yn y byd ymma?
Col. Och, lawer! Mae nef dragwyddol, ac uffern fel ffwrn a bery byth. Ond er hynny mae naill ai nef ai uffern ymhob dyn yn y bywyd hwn. 2Ond nid yw dyn yn gweled ymma pa le y mae, mwy na gŵr yn cyscu yn ei wely, sydd a llenni tywyll y cnawd o'i gwmpas, a'i holl ffenestri wedi i cau. Ond mae'r amser i ddeffro yn agos, pan gladder neu pan loscer y cnawd, ac yna mae pawb yn mynd iw gartref, ac yn canfod ei orweddfa.
Er. Ond mae arnai ofn hyn: pa le y byddai yn oes oesoedd?
Col. Er bod Ffelix yn crynnu, 3nid oes fawr dan y diwedd yn ymofyn am hyn. Os dilyni naturiaeth, di gei losgi fyth heb fynd byth yn ulw. Ond os cei di naturiaeth arall a chalon newydd, di fyddi gyda'r colomennod yn y llawenydd.
Er. Ai sôn a wnei di wrthyf fi am galon newydd? Parchedig oeddwn i erioed, am henafiaid hefyd (fel y mae'r achau yn dangos): ac mae llawer a gawsant gred a bedydd nad oes arnynt ofn uffern mwy na thithau.
Col. Er hynny, fe ddaw uffern heb i hofni. Ac nid yw achau teuluoedd ond rhwyd a weuodd naturiaeth, yn yr hon y mae pryf coppyn balchder yn llechu. Nid wyti nês er dyfod o honot o dywysogion Cymru,
1 Heb. xii. 22. 2 Luc xvii. 21; Iago iii. 6. 3 Act. xxiv. 25. 4 Act. xxvi. 18.