onid wyti yn un o hâd Tywysog brenhinoedd y ddaiar, wedi dy eni nid o ewyllys gŵr, ond o'r 1Had anllygredig. Rhaid i ti, er glaned wyt oddiallan, gael newid dy 2naturiaeth oddifewn, neu fe a'th losgir di yn dy blu, a'th foneddigeiddrwydd, a'th synwyr dy hunan. Ac am grêd a bedydd dyfrllyd, nid yw hyn fwy na gwelltyn yn y dommen, oni chei di gyda hyn yr ailenedigaeth. Ér. Peth na wn i oddiwrthi ynof fy hunan yw'r ailenedigaeth, er i mi a'r glust glywed sôn am dani.
Col. Yr ailenedigaeth yw dyfodiad dyn allan o'r naill fyd i'r llall yn y bywyd ymma-pan fo'r enaid yn yr ysbryd (mewn poen dan waeddi) yn torri drwy gwrs naturiaeth oddifewn, heb fynnu moi ddal yn hwy ynghroth y meddwl daiarol, ond er gwaethaf pob creadur yn dyfod allan o dywyllwch i 5oleuni, allan o fryntni ysbrydol i burdeb, allan o gâs i gariad, allan o gaethiwed i rydd-did nefol, allan o'r carchar i reoli, allan o helynt y byd i gymdeithas seinctiau, allan o fonwes cythreuliaid i gwmni angelion Duw, allan o sŵn y cnawd i glywed llais Duw, allan o'r oferedd i sobrwydd meddwl, allan o'r chwerthiniad i brudd-der paradwysaidd, allan o'r cnawd drewllyd i'r ysbryd bywiol, ac allan o groth naturiaeth i'r Gaersalem nefol. Mae yn yr ailenedigaeth ddwy ran. Un i'r enaid a'r ysbryd, am yr hon yr ydym ni sôn; a'r llall i'r corph yn y diwedd, yr hon a elwir, mabwysiad y corph. Ac fel y mae'r corph yn y bedd heb i eni hyd yr adgyfodiad, felly mae'r enaid yn pydru yn naturiaeth nes iddo adgyfodi gyda Christ; ac fe wna Duw i ddyn weled i fod ef yn gorwedd yn uffern, ac yn llechu yn y ddaiar, cyn iddo ddwyn y meddwl i Baradwys.
Er. Rwyti yn sôn yn fynych am Baradwys, a wyddost ti pwy sydd yno?
Col. Dod gennad i mi i son yn ddifyr am fy ngwlad am bro fy hunan. Rhaid i bawb son am ei gartref. Rwi (mewn rhan) ynddi yn barod, a'r colomennod gyda'm fi, fel y dywedais i ti.
1 Ioan i. 13. 2 Iago i. 18. 3 Act . viii . 13, 37. 4 Ioan iii. 3. 5 Act. xxvi. 18. 6 Eph. ii. 1 , 2. 7 Rhuf. viii. 8 Luc vi. 45 .