Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llyfr y Tri Aderyn.pdf/75

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Er. Ond beth ped fawn i yn dy ladd di yr awron, i ba le yr ait ti?

Col. I mewn ymhellach i'm gwlad; canys ni ellir mo'm gwthio i allan o'm naturiaeth: a naturiaeth nefol yw Paradwys.

Er. A wyddosti beth yr wyti yn i ddywedyd?

Col. Gwn, er na fedrai beri i ti ddeall,

Er. Onid oes arnat ti ofn marw er hyn i gyd?

Col. Nagoes, mwy nag ar un sydd wedi blino, fynd iw wely i orphwys. Cennad yw angau oddi wrth fy Nhad, i'm dwyn i adref allan o yscol y byd hwn, fel allan o garchar y cnawd.

Er. Ond mae ofn marw ar eraill?

Col. Mae iddynt hwy achos, canys pan fo angau yn marchogaeth attynt hwy, 2mae uffern wrth ei scîl ef.

Er. Pam nad oes arnat tithau ofn marw?

Col. Am fod Un arall wedi marw drosofi, a hwnnw yw fy Meichiau i. A digon yw naill ai iddo ef 3ai i minnau farw.

Er. Oni bu efe farw dros bob un arall cystal a thithau?

Col. Fe fu farw dros bawb, ac mae pawb yn cael llês oddiwrtho dros amser. Ond nid ydynt hwy yn i garu ef, ond yn ymollwng oddiwrtho i fyw ac i farw fel Balaam. Ac oni bai iddo erioed ymroi a chytuno i farw, ni buase y byd ymma yn sefyll munud awr ar ol cwymp Adda,

Er. Ond bu efe farw lawer blwyddyn ar ol hynny? Col. Ond deall di, O! Eryr, iddo addo, a bwriadu marw, er sylfaeniad y byd; a'r peth a fwriado efe, mae hynny fel ped fai wedi i wneuthur yn barod.

Er. Ond a fwriadodd ef wrth farw gadw pawb? Col. Mae cariad y Tad yn y Mab yn gwenu ar bawb, ond mae 'digofaint y Tad a'i arglwyddiaeth ofnadwy yn gadel ac yn gwgu ar lawer. Felly y mae trugaredd a chyfiawnder yn un, ac yn mynnu ei diweddion. Nid yw'r rhain yn Nuw yn ymryson, ond yn digoni y naill

1 Phil. i. 23. 2 Dat. vi. 8. 3 Heb. vii. 27. 4 Heb. ii 5 2 Cor. v 6 Dat. xiii. 8. 7 1 Tim. ii. 4. 8 2 Pet.iii. 9. 9 Psalm ci.