Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llyfr y Tri Aderyn.pdf/76

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

y llall, ac yn ymborth yn ei gilydd erioed, fel llawenydd a thristwch yn yr un galon, Ewyllys calon y Tad (sef yr Achubwr) yw achub y pechadur, ond mae'r cynhyrfiad tragwyddol fel tân, neu fel chrochenydd.1 Dwfn yw gwreiddyn y matter ymma (fel y dangoswyd o'r blaen) a phob dyscawdwr ai reswm ganddo, mewn amryw opiniwnau; hyn sydd ddigon i'r call a gormod i'r gwatwarwr. Ac am y gwan ei ddeall a'r sychedig ei galon, disgwilied yn ddistaw, mae'r dydd yn gwawrio, a'r dyfnder yn ymagoryd i dderbyn i'r fonwes olau y rhai isel, gofalus.

Er. Nid yw hyn yn bodloni dim ar feddyliau rhai?

Col. Ni fodlonir rhai byth, nag yn y byd ymma, nag yn yr hwn a ddaw. Ond bydd di fodlon ynghariad Duw, fel y mynne efe i bawb fod: bwytta o bren y bywyd, er bod llawer yn ymgipio am ffrwyth pren gwybodaeth da a drwg ynghyd. Digon yw i ddyn wybod hyd, a llêd, ac uwchder, a dyfnder cariad y Goruchaf tuag at ei enaid truan: a'r holl wybodaeth arall a dderfydd, ac a ddiffydd fel canwyll, pan godo y tymhestloedd olaf.

Er. Ond, wrth hynny, i ba beth yr ydym ni yn ymddiddan? Onid gwiw cael gwybodaeth, nid gwiw siarad nag ymofyn am dani?

Col. Bywyd tragwyddol yw adnabod y Tad yn y Mab, ond angau yw i adnabod allan o hono, a gorthrymder ysbryd. Nid yw'r Tad yn i ganfod ei hun allan o'r Mab, ond ynddo, a'r Mab ynddo yntau; ond fel yr oedd yr Iddewon yn edrych ar y Mab allan o'r Tad (heb adnabod yr un o'r ddau) felly y mae llawer yn edrych am Dduw allan o'i ddifyrrwch ai anwyl Fab, ac yn i gael yn dân lloscadwy.

Er. O! Golomen. Rwyti yn rhy gyflym i mi. Ond oni fedri di fod yn falch am hynny?

Col. Ni fedrai, ac ni feiddiai fod yn falch. Canys nid fyfi am gwnaeth fy hunan, a'r hwn a'm gwnaeth.


1.Rhuf. ix, 21, 2 1 Cor. xiv. 38; Eph. iii. 18, 19. 3 Ioan xvii. 3. 4 Psal. c. 3.