i yn wirion ymhob peth, iddo ef y byddo'r glod byth. Nid oes gennif na llais, na lliw, na llun, na phluen o'm gwaith a'm gallu fy hun. Nag ymffrostied neb ynddo ei hunan, ond yr hwn sydd o hono ei hunan, yn fendigedig ymysg pawb ar ai hedwyn mewn cariad.1
Er. Ond mae (er hynny) llawer yn hoywfeilchion, yn ymfronni, ac yn ymosod allan orau y gallont.
Col. Er hynny, nid yw dyn o hono ei hun ond swp o wenwyn, a thelpyn o bridd, ac anifail brwnt, cysclyd, anneallus, neu welltyn glas yn gwywo; twrr o escyrn yn pydru; gwas i ddiafol ynnhommen y cnawd, Ac a ddyle hwn (dybygi di) fod yn falch?5 Ie, er bod rhai seinctiau ynghyfiawnder yr Arch, mae nhwy yn gweled nad yw ei cnawd nhwy ond blodeuyn. Ni all y Goruchaf aros llygaid a meddyliau uchel; ac fe a ostyngir y brynniau, fel Dagon a Jezabel. Canys llei bo balchder, mae ynfydrwydd, ewyllysgryfder, anghofusdra, creulondeb, drwglygad, cenfigen, ymrafael, anfodlonrwydd, gwaed, cynnen, malais, ymladd, gwagfost, dirmyg, anair, ymgystadlu, ac ymchwyddo ymhob drygioni.
Er. Onid oes dim o'r pethau ymma yn eich mysg chwi?
Col. Fel y mae'r afiechyd yn yr iachaf, neu ddraen yn y troed, neu wynt yn y cylla, neu ascwrn o'i le, mae pechod yn olrhain dŷn da, i geisio i ddal. Ond y mae meddwl dyn drwg yn dal, ac yn goddiwedd ei bechod. Mae'r naill yn marwhau, a'r llall yn magu, 10ei anwylchwant. Mae'r naill yn i ofni, ac yn i gashau fel gelyn, a'r llall yn i groesafu iw feddwl fel 11 siwgwr dan ei ddannedd. Y naill sydd yn ei chwant ai natur fel brithyll yn y dwfr, a'r llall yn nofio allan o hono ei hunan am ei fywyd. Y naill fel yr hŵch a'r afr; a'r llall fel y ddafad ddiniwed yn adnabod llais y bugail.
Er. Sôn am y bugail yr wyti. Ond mae llawer llais yn y byd, a sŵn rhesymmau lawer. Pa fodd yr adwaenost di lais yr Yspryd Glân ymysg y cwbl?
1 Jer. ix. 23. 2 Gen. iii. 19 3 Preg. iii. 18. 4 Esay xl. 7 5 Psal. cxxxviii. 6. 6 Diar. xvi. 5 7 Rhuf. vii. 18 8 Gal.vi I 9 Rhuf. viii.13 10 Psal. xviii. 23. 11 Job xx. 12.