Col. Oni wyddost ti y medr oen bâch adnabod llais ei fam ei hun ymysg cant o ddefaid. Nid oes neb a fedr ddirnad y gwir Ysbryd 1ond y sawl sydd ai natur ynddo, am hynny ofer yw rhoi arwyddion a geiriau iw adnabod.
Er. Wrth hynny, rwyti yn gadel pawb iw feddwl ei hun.
Col. Pan fo'r gwir fugail yn llefaru, a dŷn yn i glywed, mae'r galon yn llosci oddifewn, a'r cnawd yn 2crynnu, a'r meddwl yn goleuo fel canwyll, a'r gydwybod yn ymweithio fel gwin mewn llestr, a'r ewyllys yn plygu i'r gwirionedd: ac mae'r llais main, nefol, nerthol hwnnw yn codi y marw i fyw oi fedd ei hunan, i wisgo'r goron, ac yn newid yn rhyfedd yr holl fywyd i fyw fel Oen Duw.
Er. Onid oes cnawd yn gorchfygu y gorau o honoch?
Col. Nagoes. Y mae cnawd drosom, ond nid yw fo yn gorchfygu monom, ond fel tŷ Saul yn myned wannach wannach. Canys y neb sydd yn yr Arch a groeshoeliasont y cnawd, ai wyniau, ai chwantau. Mae nhwy fel dynion wedi meirw i bleserau a chlod a chyfoeth y byd; nid ŷnt fywiog iddynt, nag ynddynt. Maent wedi gwywo yn ei synwyr ai hewyllys ei hunain, ac yno mae'r blodeuyn tragywyddol trwyddynt, ynddynt, iddynt.
Er. Pa beth (meddi di) yw'r cnawd yr ydym ni yn son am dano, gan fod llawer heb ddeall ei geiriau ei hun?
Col. Y cnawd yw pob peth dan yr haul a'r sydd o'r tu allan i'r dyn oddifewn. Pa beth bynnag sydd ddarfodedig, ac nad yw dragywyddol, cnawd yw. Cnawd yw synwyr dyn, a phleser y byd. Cnawd yw chwaryddiaeth hên ac ifangc. Cnawd yw ymborth a hiliogaeth dyn. Cnawd yw amser a phob peth ar a derfynir ynddo. Cnawd yw ewyllys a dirgelwch dynion. Cnawd yw gweddiau a phregethau llawEr. Cnawd yw an
1 Ioan x. 2 Luc xxiv. 3 Hab. iii. 2. 41 Bren. xix.; Gal. v. 24. 5 Gal. vi. 14.