rhydedd gwŷr mawr, ac uwchder gwŷr mân. Cnawd yw pob peth ar a all dyn naturiol i weled, ai glywed, ai gael, ai gynnwys: la gwellt yw pob cnawd: wele gwywo y mae: nid yr un yw dros un munud. Mae anadl Immanuel yn chwythu ar y blodeuyn ymma, fel ar llysseuyn gardd, yr hwnn a lychwina rhwng dy fyssedd: fe elwir y cnawd ymma wrth henw Henddyn, am i fod yn gyfrwys i dwyllo, yn hawdd i gofio, yn anhawdd i adnabod, yn gynefin a dyn, ac fel tad iddo. Cnawd y gelwir ef, am i fod ef am ddyn fel dilledyn, yn anwyl iddo, yn agos atto, yn rhan o hono, yn tyfu ynddo, ac yn pydru wrtho. Y cnawd ymma yw Gelyn Duw, Gwenwyn dyn, Lifrau uffern, Delw anifail, Anwylyd pechadur, Lloches rhagrithiwr, Rhwyd y prŷf coppyn, Marsiandwr eneidieu, Cartref y colledigion, a Thommen y cythreuliaid. Gwae, gwae, gwae y rhai sydd yn byw yn y cnawd; ni all y rheini na bodloni Duw,5 na bod yn gadwedig, oni ddychwelir hwynt.
Er. Pwy yw y rheini sydd yn byw yn y cnawd yn ôl y cnawd?
Col. Ped fawn i yn henwi'r cwbl, mi henwn y rhan fwyaf o holl drigolion y ddaiar, y tywysogion beilchion, yr offeiriaid mudion, y llefarwyr myglyd, y gwrandawyr cysglyd, y proffeswyr gweigion, yr uchelwyr trawsion, y tenantiaid ffeilsion, y rhai ifaingc nwyfus, y rhai hen ofergoelus, yr usdusiaid anghyfion, yr ymofynwyr partiol, y cyfreithwyr cyfrwysddrwg, y boneddigion briwsiongar, y tlodion rhagrithiol, y gwerin anwybodus, yr yscolheigion chwyddedig, y milwyr anrhesymmol, y trethwyr digydwybod, y tafarnwyr anifeiliaidd, y cynllyfanwyr segurllyd, y gwyr chwerwon, y gwragedd anufydd, y plant cyndyn, y masweddwyr sidanog, y lladron anweledig, y llofruddion maleisus, y cynhennus direol, yr ymladdwyr gwaedwyllt, y godinebwyr anifeiliaidd, a holl addolwyr y llythyren, a'r cyffelyb i'r rhai hyn, am y rhai y dywedwyd o'r blaen,
1 Rhuf. viii. 2 Esay xl. 7. 3 Eph. iv. 22. 4 Gal. v. 5 Rhuf. viii. 8.