Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llyfr y Tri Aderyn.pdf/82

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

rhag dywedyd geiriau segur, canys rhaid rhoi 1cyfrif am bob gair diwaith.

Er. Beth (wrth hynny) a ddaw o honom ni sydd yn siarad rhyd y dydd am y peth cyntaf a ddêl i'n pennau? Col. Mae ysbryd dyn siaradus yn farch i ddiafol, heb un ffrwyn yn ei safn. O! pa sawl mîl yn yr wythnos o eiriau segurllyd2 y mae pawb agos yn i traethu? Yr holl eiriau budron, anllad, diofn, digllon, afrywiog, anneallus, enllibiaidd, rhyddion, yr holl eiriau gwatwarus, meddwaedd, bloddestgar, sarrig, cyfrwysddrwg, drygionus, pan ddelo'r rhain i gyd fel lluoedd mewn arfau i gyfarfod y pechadur, beth a ddaw oi obaith ef y dydd hwnnw? Am hynny gwaedda yn fuan am yr Ysbryd Glan i fod yn borthor ar ddrws dy wefusau,3 cyn i ti ddywedyd gormod.

Er. Ond beth os dywedais i ormod o eiriau yn barod na fedrai gofio un o fil (er bod yr angelion wedi i printio nhwy er cynted y daethant allan o'm genau)?

Col. Selia dy enau o hyn allan, ac egor dy gydwybod o flaen Duw, a. glŷn yn galed wrth yr Arglwydd Iesu ar iddo fod yn feichiau drosot ar ddydd y farn, ac na chwsg ddydd na nos nes cael sicrwydd oddiwrtho. Mae ar y dledwr ofn cael i arrestio, ai ddal, ai garcharu nes iddo dalu yr hatling eithaf. Pan bechodd Adda fe ddywedodd wrth yr Arglwydd (Iehovah), Mi a glywais dy lais di yn y gydwybod, ac a ofnais, ac a ymguddiais.4 Dymma fynydd Sinai a dirgelwch y daran; dymma gydwybod ledradaidd yn ceisio (pe bai bossibl) ddiangc o'r tu cefn i Dduw allan oi olwg. Ac am fod y goleuni cyhuddgar ymma mewn dyn, mae arno gywilydd wneuthur o flaen pawb y peth naturiol nad yw'r anifail yn rhuso i wneuthur. Canys mae discleirdeb delw Duw ar enaid dyn, er na ŵyr yr enaid mo hynny, yn eglur nes torri o'r gostrel bridd, a myned o'r meddwl allan o'r corph. Am hynny gochel di adel dim llwgr ac euogrwydd ar dy gydwybod, na dim crawn yngwaelod y briw. Canys os bydd llun a delw y pechod (fel

1 Mat. xii. 27. 2 Psal. cxx. 3, 4. 3 Psal. cxli. 3. 4 Gen. iii. 5 Job xxi. 15. 6 Heb. x. 22; Lefit. xxvi. 36.