Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llyfr y Tri Aderyn.pdf/83

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

bwbach uffern) yn y gydwybod, pob peth a'th gynhyrfa, a phob digwydd a'th ddychrynna. Os gwnei di ddim (mewn meddwl, gair, neu weithred, neu ymddygiad), yn erbyn dy gydwybod, mae taran yn nesha ynot yn dangos ei llef. Ac os pâr dy gydwybod i ti wneuthur y peth ar peth sydd dda (drwy estyn bys oddifewn ai ddangos i ti), os ti ai hesceulusi, ac a droi heibio, mae scrifen ar dy fur di yn peri i'th gymmalau di oddifewn siglo.1 Ac heb law hynny (deall hyn, O Eryr) fod delwau ym meddwl pob dyn, a'r rheini yw lluniau pob peth a welodd y llygad yn y byd; maent yn ymddangos oll megis mewn drych yn y meddwl, a'r lluniau ymma a barhant byth onis distrywir hwynt cyn i'r corph farw.2 Nid oedd ond un ffordd ar ran Duw iw difetha: fe gymmerodd ei anwyl Fab, ai ddelw ei hunan, ac ai tarawodd yn erbyn dy ddelwau di. Fe a dorrodd ei ddelw ei hunan, ac ai lladdodd ar y groes, fel y difethid eulynod dy galon dithau drwy nerth Ysbryd y groes.3 Ac os mynni di gael heddwch cydwybod, a heddwch a barhatho byth, gwybydd y gwneir i ti wybod pa fodd y bu Christ (sef enneiniog Duw) farw drosot ti, a thithau ynddo yntau, ac yntau ynot tithau. A thrwy gredu hyn i gyd ynghyd, mae'r gydwybod yn cael i hyscubo yn lân drwy ffydd, a'i hyscafnhau oddiwrth yr holl hen feddyliau pechodol, er brynted fuont, Gwaed yr Oen sy'n golchi'r enaid, a'r dwfr gyd a'r gwaed. Ac yn y dwfr a'r gwaed hwnnw oddifewn mae rhinwedd a holl nerth ysbryd y Duw byw tragwyddol. Dymma'r ffynnon agored yn Nghrist i ti, ac ynot ti i'w ddiodi yntau; pob peth sydd o Dduw, ac nid o ddyn, am hynny disgwil di wrtho. Ac o achos dy fod di yn son am bechod y genau, ac am ddrygioni geiriau, cofia byth fod meddyliau'r galon yn eiriau sylweddol ynghlustiau y Goruchaf; a thra fo meddyliau'r cnawd ynot ti, mae nhwy fel bytheuaid yn dy ganlyn di ddydd a nos, ac yn gwneuthur swn amherffaith ynghlustiau'r

1 Iago iv. 17. 2 Ezek. xiv. 4. 3 I Ioan iii. 8 4 Rhuf. vi. 5 I Ioan v.; Heb. ix. Zach. xiii. 1; 2 Cor. v. 18;14; Psal. xiv. 7; Jer iv. 14.