Barnwr, O! i ba le y diangi di rhagddynt ond allan o honot dy hunan? Mae un meddwl ofer yn drymmach na'r holl ddaiar, canys nid yw'r ddaiar ond amserol, ond mae'r meddwl yn dragwyddol. Ac hefyd nid yw'r llais oddiallan ond adlais y sŵn oddifewn. Ac mae meddyliau pawb agos yn rhedeg allan oddiwrth Dduw drwy y llygaid a'r clustiau at bethau gweledig, darfodedig, heb fedru nag heb gael aros i mewn i wrando ar y llais anrhaethadwy yn yr ysbryd. Mae'r gelyn wedi tynnu allan lygaid a chlustiau pob dyn agos at y peth a wnaed oddiwrth yr hwn ni wnaed ond oedd erioed.1
Er. Son yr wyti yr awron am ryw fyd oddifewn, nid wi'n deall mor pethau hyn.
Col. Mi soniais am hyn o'r blaen, ond nid yw rhai yn deall, er dywedyd deirgwaith yr un peth, am fod y cnawd fel sachlen ddu ar ffenestri'r meddwl. Rwyti, O! ddyn, ynghanol pob naturiaeth, er nad wyt yn gweled. Na wrando ar y mesurwyr cnawdol, sy'n son gormod am yr un mil ar hugain a chwechant o filldyroedd sydd yn gwregysu yr holl fyd, ac yn bwrw fod tairmil o ganol gwaelod y ddaiar i'r wynebion, a phedwar myrddiwn oddi ymma i'r haul, a phedwar ugain oddi wrtho ef i'r wybren, ac oddi yno i'r Nef gymmaint ag i'r ddaiar. Ond mae gair y ffydd yn swnio ynot ti. Mae'r Drindod gyda'th di. Mae paradwys ac uffern drwy bob lle, fel y dywedais i o'r blaen.
Er. Er a ddywettech di, nid yw hyn yn mynd im pen i, nag im calon chwaith. Ar pen yw drws y galon. Pa fodd y mae i ddyn feddwl, heb gam feddwl, am y pethau hyn?
Col. Ni all fod ond un anfesurol; a hwnnw am i fod ef yn berffaith, rhaid iddo fod3 ymhob man ar unwaith, ac yn llefaru wrth bawb yn wastad, yn clywed ac yn cynnal pob peth ar unwaith. Nid rhan o hono sydd ymma, a rhan accw, canys nid oes mor rhannau ynddo. Ond mae fe i gyd, ac yn gwbl, ac yn hollawl
1 2 Tim. iii. 6, 7. 2 Rhuf. x. 7, 8. 3 Jer xxiii. 24.