ymhob man ar unwaith. Am hynny y galle Moesen chwedleua âg ef wyneb yn wyneb, canys yr oedd yr holl Dduwdod o flaen ei lygaid ef. Ond ni wêl neb hyn
y meddwl ysprydol, fel na ellir gweled yr haul ond yn ei oleuni ei hunan. Pwy sydd yn gweddio? neu pwy sydd yn pregethu? neu yn rhoi tro yn y byd, ac yn gweled fod yr holl Dduwdod i gyd, sef y Duw mawr, ai holl olwg arno? ac yn deall mai lle y mae ei gariad ef, yno y mae bywyd a pharadwys; ac lle mae ei ddig ef, yno y mae angau ac uffern. Hwn yw'r Duw anfesurol, bendigedig byth, yn ymlonyddu ynddo ei hunan, ac iddo fe bo'r clod ym mhob man yn dragywyddol.2 Ni ddyle3 ddyn son am ei enw ef heb barch a chrynfa, canys ynddo y mae pawb yn son am dano. Oi flaen ef y mae'r nefoedd yn diangc, a char ei fron ef y mae'r angelion sanctaidd yn ymguddio; ond mae dynion fel anifeiliaid direswm, uffernol, yn rhuo, yn anghofus, yn cablu, yn camarfer y gair, yn tyngu, yn drwgfeddwl, yn melldithio, yn rhegi eraill ai heneidieu ei hunain, heb weled fod y tân aniffoddadwy wrthynt ac ynddynt. Ac mae rhai eraill (druain) yn edrych am Dduw o hirbell, ac hefyd yn gweiddi am dano oddiallan, heb weled fod ffynnon, a gwreiddyn ynddynt, yn ceisio tarddu a thyfu drwyddynt. Canys mae fe gyda phob dyn, er cynddrwg yw, yn goleuo pob dyn ar sydd yn dyfod i'r byd; ond er i fod ef drwy bawb, nid yw fe yn cael aros ond yn ymbell un. Y sawl sydd gantho glust i wrando, gwrandawed.
Er. O Golomen, onid wyti yn blino bellach a siarad am y pethau hyn? Ni fynnwn i mo'th flino di chwaith.
Col. Edrych di ar dy ragrith, ond dydi dy hun. sydd yn ceisio escus? Nid wyti nês er blino, nac er rhagrithio, ac ymescuso. Nid oes dim blinder arnafi; pethau nefol yw fy mywyd, ac fe a'm gwnaed i o bwrpas i ddwyn tystiolaeth. A rhaid i bob llestr wasanaethu
1 Math. xi. 27. 2 Rhuf. xi. 36. 3 Deut. xxviii. 58. 4 Dat. vi. 5 Esay, vi. 6 Rhuf. iii. 14 7 Ioan i. 9; Ephes. iv. 6. 8 Job xxiii. 12.