yw ddiwedd ai ddefnydd. Nid yw'r angelion yn blino yn canu, ac yn canmol. Ac yr ydychwi yn gweddio, "Gwneler dy ewyllys ar ddaiar, fel yn y nef."
Er. Onid oes (er hynny) rai o honochwi yn swrthdrymion?
Col. Yr ewyllys sydd barod, ond y cnawd sydd wan. Nid yw'r dyn gwan yn blino ar ei fywyd, ond ar ei glefyd, ac eisiau bod yn gryfach, ac mae nerth newydd yn descyn ar y llescaf, os disgwiliant 2am dano oddiuchod. Y gwan a saif, a'r cryf a syrth.
Er. Ond beth, meddi di, a wna dyn sy'n barod i ymollwng dan ei feddwl, ac i orwedd dan ei faich yn ddigalon?
Col. Nhwy ddywedant, Nad trom ond y ddaiar, ac er trymmed yw hi (er ei hoed) mae Duw yn cynnal i fynu y ddaiar, ai holl gyrrau ar ei air ei hunan, ac heb chwysu na diffygio. Edrych dithau arno. Hwn a ddichon gynnal dy galon dithau, er trymmed yw. Hwn sydd yn gosod ei fraich dan ei ŵyn. Edrych a gwêl fel y mae efe yn dwyn oddiarnat yr hen nerth, act yn rhoi i ddynan truan nerth newydd, ac yn i lenwi âg îrder newydd fel y mae'r gwreiddyn, tra barhatho, bob blwyddyn yn danfon i'r canghenau ddail a ffrwyth newydd, canys yn y gwreiddyn y mae'r bywyd. Y tad Abraham a obeithiodd yn erbyn rheswm, dan obaith,5Felly y gwnaeth Barac, a Gideon, a Habbacuc, ac Esay, a llawer eraill yn ddiweddar, ac yn yr oes hon. Fe fyddai ryhi i ti glywed y cwbl, ond gwych gan bawb son am y peth y mae efe yn byw ynddo, ac arno. Oni elli di ddwyn i fynu dy ffyrdd a'th feddyliau,. treigla dy holl hunan ar yr Arglwydd, sef arno, neu tuag atto o'r hyn lleiaf, ac efe a'th gynnal di dan y maen melin. Ac os myn y Tad, rhaid i ti berchi ei Fab ef yn y cwppan chwerw, er mwyn lladd y pechodau; rhaid yw bod yn fodlon i orwedd yn farw yn ei fedd ef, cystal ac i eistedd yn ei gadair. Mae cur y meddwl, yn bysygwriaeth y mae Duw yn i roddi i'r
1 Mat. xxvi. 41. 2 Esay xl. 30 31 3 Esay xl. 28. 4 Esay xl. 21. 5 Rhuf. iv. 18. 6 Heb. xi. 7 Diar. xvi. 3; Psalm lv. 22; 1 Petr v. 7.