rai y mae efe yn i garu, i dynnu i lawr ei balchder Hiliogaeth Duw yw ysbryd dyn, ac mae Tad yr ysbrydoedd yn i cospi; cwympa dan ei draed ef, ac di gei gyssur.1
Er. Mi welaf fod y Golomen yn hedeg heb flino mewn daioni, er bod eraill, fel yr hwiaid, yn fuan yn cwympo i'r pyllau. Gwyn ei byd y rhai sydd heb ddyffygio wrth hedeg uwchlaw'r byd ymma.
Col. Onid wyti (O! Eryr) yn un o'r rheini?
Er. Nag ydwyf etto, ysywaith. Nid oes flinder wrth ofer-siarad, ond buan yr wyfi yn blino wrth son am bethau nefol. Ac er hynny, tra fwyfi yn dy gwmni di, mi debygwn fod rhyw fath ar ddifyrrwch ysbrydol yn fy nwyn i ymlaen.
Col. Am hynny, glŷn ynghymdeithas y rhai nefol, Hawdd yw adnabod rhagrithiwr wrth ei gymdeithion. Safnau diafol yw cymdeithion drwg, yn llyngcu meddyliau'r gwirion.2 Gelod penagored yw'r gwyr cyfrwysddrwg, yn sugno'r meddwl yn ddistaw i uffern, allan o'i gôf ei hun, ac allan o gariad Duw. Ond am gwmni da, di a glywaist o'r blaen faint a ddywedodd y gigfran yn i erbyn. Mae yn sicr efrau ymysg y gwenith, ac mae etto wlydd ymysg y llysiau, a Judas ymysg yr Apostolion, a nadroedd dwfr ymysg y pyscod; ond er hynny, gwae a wrthodo dda am fod drwg wrth ei ystlys, a gwae a gamgymmero y naill am y llall.
Er. Ond ni welafi etto un Eglwys bur i mi i uno gyda hi: Nid oes un yn gwneuthur daioni, nag oes un (ac er hynny mae un, a hwnnw, meddi, yw Christ). Ond dywaid y gwir sydd dan y llenn. Onid yw'r eglwysydd newyddion ymma cynddrwg a'r eglwysydd plwyfol gynt?
Col. Mi ddywedais o'r blaen fod llawer yn medru lleisio fel colomennod, ac fel cigfrain hefyd. Mae yn yr eglwysydd lawer o adar eraill; mae'r wyddwalch, a'r forwennol, a'r barcud, a'r gôg, a'r gwalch, a'r dylluan, a'r gôgfran, a'r biogen, a'r gornchwigl, a'r ystlym, a'r
1 Heb. xii. 9. 2 Diar. xxii. 24, 25. 3 Diar. i. 14, 15. 4 Diar. iv. 14.