Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llyfr y Tri Aderyn.pdf/88

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

cryr, a'r nosfrân, a'r fulfrân,1 (a'r cyffelyb bobloedd), a'r rhai hyn wrth y gyfraith, adar aflan ydynt oll. Mae hefyd ysbryd y golomen yn ei mysg yn yr eglwysydd, ond mae ysbryd y byd yn taflu cerrig atti.2

Er. Ond beth a ddywedi am yr yscuthanod, a'r cyffelyb rai, sydd yn debyg i chwi eich hunain?

Col. Nid yw Moesen yn i galw nhwy yn aflan, er bod gwahaniaeth. Nid wyf finnau yn i barnu, ond yn dwyn ar gôf, nad sidan yw'r carth meinaf, nid aur pob dysclair, nid Gilead yw Ephraim,3 nid Ashdod yw Sion, ac nid gwiw nofio, a boddi wrth y làn. Nid gwell rhedeg, a blino cyn diwedd. Nid nês dyn, er iddo gychwyn o'r Aipht, a chael i ladd yn y diffaethwch, drwy anghrediniaeth. Roedd gan Iachawdwr y byd rai ceraint yn ol y cnawd, "ai gwatwarent ef. Mi ddywedais fod Duw wedi rhodio drwy dair teml yn barod; 7sef y deml yn Nghaersalem o waith Solomon, a honno oedd dywyll i'r ysbryd a disclair i'r cnawd; yr ail oedd Teml corph y Mab, a ddinistriwyd, ac a gyfodwyd yn ogoneddus ysprydol; y drydydd, oedd yr eglwys wych ymrhesenoldeb Duw gyda'r Apostolion;9 a'r eglwys nesaf yw Caersalem newydd, yr hon a gynnwys ynddi10 yr Hen Destament a'r Newydd, ac eiff tu hwnt i'r ddau.

Er. Ond (yn bennaf peth) dangos i mi beth yw'r bedwaredd Deml, canys mi welaf bawb agos wedi blino ar y temlau a'r gwasanaeth sydd etto.

Col. Y Deml olaf yw Duw mewn dynion yn ym. ddangos, a dynion yn ymddangos yn ei enw yntau;11 pan fo dynion yn addoli 12Duw ynddo ei hunan, ac nid mewn cyfarwyddyd dynion, a Duw ei hunan yn oll yn oll ynddynt, ac iddynt. Canys hyd13 yn hyn y greadwriaeth a gyscododd y Creawdwr; ond pan ymddangoso y Duw mawr, fe ddiflanna y creaduriaid. Mae fo drwy bob peth erioed, ond nid oes mo ysbrydoedd dynion ar y

1 Lefit. xi. 2 Act. vii. 51. 3 Barn. xii. 6. 4 Act. xxvi. 28 5 Mat. xxiv. 13. 6 Ioan vii. 3. 7 I Bren. vi. 8 Ioan ii. 21 9 Act. ii. 10 Dat. xxi. 10, 12, 14. 11 Dat. xxi. 22. 12 Tit. ii. 13. 13 I Cor. xv. 24.