ddaiar yn i ganfod ef etto yn oll yn oll, ond yn chwennych y wisg, yn hytrach na'r hwn sydd yn aros ynddi. Cyn gwneuthur y byd nid oedd ond Duw yn ymddangos iddo ei hunan; ac wedi difa'r byd ymma, ni ryfeddir neb ond Duw. Rhai a wêl ei ddigofaint, ac eraill ei gariad, ef byth. Y dyn na welodd Dduw mewn meddwl ysbrydol, ni addolodd hwnnw mo Dduw ei hunan; ond ysbryd y byd mawr, yn ei le ef, y mae y rhan fwyaf yn i addoli. Mae'r amser yn agos na bydd gan ddynion na goleuni, na hyfrydwch, na thywysog, na bugail, na phorfa, na thai, na thiroedd, na meddiannau, na gorphwysfa, na chyfoeth, na gwybodaeth, na bywyd, na dim ond Duw ei hunan; ac efe sydd ddigon, fel y dywed y ddihareb, "Heb Dduw heb ddim, Duw a digon." A'r rhai sydd yn byw heb Dduw, ni bydd ganddynt ddim pan loscer y byd ymma ond ei pechodau, a'i gwewyr tragywyddol yn ei cydwybodau ei hunain. Am hynny edryched dyn ar ba beth y mae fo yn gosod ei galon; llawer o demlau yw'r achos o lawer o ymrysonau; llawer o opiniwnau a adeiladasont lawer o demlau; ond yn y diwedd, ni bydd ond un deml i'r holl rai duwiol, ac ni bydd yr un i'r rhai annuwiol. Teml Duw yw corph ei Fab: teml y Mab yw ei Ysbryd anfesurol (canys yn ei Ysbryd ei hun y mae for yn byw, ac nid allan). Tem15 yr Ysbryd Glân yw plant y deyrnas, ai teml nhwythau yw Duw, yr hwn yw y cyntaf a'r diwethaf, sef yr holl yn oll. Y sawl a fynno fodloni Duw, arhosed yn ei Fab; y sawl a fynno ddilyn y Mab, rhodied yn ei Ysbryd. Blîn gan ddyn gael ei ddiddymu ai ddiddyfnu iw ddiddanu; ond y sawl sydd ganddo glust i wrando, gwrandawed.
Er. Di soniaist am glust i wrando unwaith o'r blaen. Onid oes gan bawb glust i wrando?
Col. Mae llawer o leisiau ynghalon dyn; mae swn y byd, a'i newyddion, a'i drafferthion, a'i bleserau, a'i ddychryniadau. Mae hefyd o'r tu fewn i stafell y galon sŵn meddyliau, ac annhymerau, a llanw a thrai
1 Rhuf. i. 24. 2 2 Thess. i. 10. 3 Ioan iv. 22, 23. 4 Col. ii. 9 5 I Cor. 6. 6 Gal. v. 16. 7 Zech. ii. 13.