cnawd a gwaed. Ac fel hyn y mae'r enaid truan (fel lletty'r meddwon) yn llawn dwndwr oddifewn; y naill chwant yn ymgoethi a'r llall; neu fel ffair neu farchnad fawr, llei mae trwst a siarad a bloddest yn llenwi heolydd y dref oddifewn. Dymma'r achos na ŵyr dyn hanner ei feddyliau ei hun, ac nad yw fo yn clywed yn iawn beth y mae ei galon ef ei hun yn i ddywedyd.
Er. Ond pa fodd y mae i feddwl dyn gael llonydd?
Col. Wrth fynd i mewn i'r stafell ddirgel, a'r stafell honno yw Duw ei hunan1 o'r tu fewn. Ond tra fych di yn gadel i'r meddwl redeg allan drwy'r llygaid a'r synhwyrau, neu yn edrych oddifewn ar luniau a delwau y peth a welaist neu a gofiaist, mae'r meddwl, fel Lot, yn gadel ei dŷ, i ymresymmu 2a'r Sodomiaid, nes i Ysbryd Duw dy gipio di i mewn i ymddiddan a Duw yn stafell y galon. A thra fo'r meddwl fel hyn o'r tu allan, mae diafol o'r tu fewn yn rhwystro y meddyliau i ddychwelyd i mewn i Dduw: ac felly mae'r enaid truan yn rhodio oddicartref, 3yn gweled ac yn chwennych y naill beth a'r llall oddiallan, heb weled pa fath Dduw sydd oddifewn. Ac yr awron (O! Eryr), gâd i mi ofyn i ti, A wyt ti yn gofyn, ac yn dywedyd pob peth (dybygi di) o eigion dy galon?
Er. Mae'n erbyn fy ewyllys i etto ddangos fy holl feddwl i neb.
Col, Ond gosod at dy galon, nad oes dim dirgel ar na fydd amlwg, canys mae pob peth o flaen wyneb mawr, golau Duw, ai angelion,5 a cher bron miloedd meddyliau'r gydwybod. A'r hyn a fissier yn y glust, a bregethir ar bennau'r tai, ynghanol y marchnadoedd. Yr hyn a feddylio dyn wrth orwedd ar ei wely, a gyhoeddir yn y ffurfafen. Er cynted y dyweder gair, mae fo wedi i brintio yn yr awyr, ac mae'r angelion yn ei ysdyn ef i'r byd arall (yr hwn yw'r naturiaeth nesaf yn dy gymmydogaeth). Fe ddaw i oleuni disclair yr holl ddirgel ddychmygion, a'r llen gynghorion, a phob bryntni cornelydd, a difyriad cnawdol, a llof- 1 Esay xxvi. 2 Gen. xix. 3 Esec. vi. 9. 4 Luc xii. 2. 5 Job xxxiv. 21, 22. 6 Esay xxix, 15. 7 Preg. xii. 14.