Col. Y sawl a galedir unwaith drwyddo, ni chais ef byth yn iawn ddychwelyd,1 nes i fod ef yn y pwll o'r hwn ni ddaw neb allan byth.
Er. Ond pa fodd y caiff dyn adnabod dydd ei iechydwriaeth?
Col. Tra fo'r adar yn canu—tra fo'r felin yn troitra fo'r gwynt yn chwythu-tra fo'r haiarn yn dwymyn -tra fo'r awr hon yn parhau2-tra fo'r meddwl yn ymgeisio tra fo'r gydwybod yn rhybuddio. Cyn diffyg yr anadl-cyn cau porth y ddinas-cyn hedeg or enaid-cyn torri o'r edef—cyn cwympo'r pren—cyn caledu'r ewyllys—cyn serio'r gydwybod—cyn diffodd y ganwyll —cyn passio'r farn—cyn i heddyw ddarfod—cyn i'r munud ymma fyned heibio. Dychwelwch, O! blant dynion. Pa hyd yr oedwch gymmeryd bywyd?
Er. Mae llawer yn son am gael i dal ai cymmeryd ar awr dda. Onid oes awr dda i bob un oddiwrth y Planedau?
Col. Mae'r Planedau yn rheoli y meddwl anifeiliaidd cnawdol, nes iddo fynd allan or corph oddi tan yr haul. Ond mae'r dyn difrif ysbrydol uwchlaw'r holl blanedau yn ei feddwl yn barod, er bod ei gorph ef etto fel anifail. I'r dyn cyndyn, nid oes un awr dda, nag i'r dyn nefol un awr ddrwg.
Er. Ond mae ein Henafiaid ni wedi dangos i ni yn y gwrthwyneb, ac mai da yw ymgroesi.
Col. Nid gwiw croesi'r talcen, pan fo'r ysbryd aflan yn y galon. Mae arwydd y groes yn nghalon y dyn ffyddlon, yn croesi ei chwantau ac yn lladd ei natur lygredig, ac yn newid ei feddwl; dyna'r Groes sy'n achub dyn rhag pob drwg.5 Ond deall nad iw'r dyn sy'n ofni Duw yn ofni'r planedau, mwy nag y mae usdus ar y faingc yn ofni y rhai sydd dano; canys mae'r 'dyn duwiol yn rheoli pob peth yn yr Ysbryd gyda Duw ei hun. Ond mae'r dyn arall yn ofni ei gyscod yn fwy na Duw, am nad yw fo yn gweled drwy ffydd mor Goruchaf.
.
1 Heb. iii. 2 2 Cor. vi. 2 3 Preg. xii. 4 Job xxxviii. 33 5 Gal. vi. 14. 6 Hos. xi. 12; xii. 3. 7 Dan. iii. 16.