Er. Ond beth a ddywedi di am y dewiniaid a'r dewinesau? Oni wyddant hwy lawer peth dirgel?
Col. Os ymroi a wna rhai i ddiafol, fe ddengys iddynt yr hyn a ŵyr, gan ddyscu ei blant1 mewn malais a drwg; ond ni ŵyr ef ei hun mor holl gospedigaeth sydd i ddyfod arno, am hynny mae fo yn crynnu.2 O'r tu arall, y rhai sydd yn ymroi i Dduw, a gânt3 i dyscu ganddo, ac ni all yr un drwg gyffwrdd a hwynt,. am ei bod mewn byd uchel (mewn naturiaeth arall) yn rheoli gyda'r Oen, ac yn barod i farnu dynion ac angelion. O gwyn ei byd sydd wedi cael yr adgyfodiad cyntaf, canys ni all pyrth uffern ymhel ar rheini.
Er. Gwyn ei byd yn siccr. Ond y mae arnai ofn fy mod i etto dan draed naturiaeth cnawd a gwaed.
Col. Dymma'r amser5 i ti i ymgodi i'r uchelderau, ac i ddiangc rhag y gelyn wrth redeg dan groes Christ. Dymma'r dydd i dorri drwy'r cwbl; dymma'r awr i fod yn ddedwydd. Ac O! na bai pawb yn gweled ei tymmor, ac yn parattoi erbyn y nos a'r gauaf sydd yn dyfod. Mae'r wennol a'r cyffylog yn adnabod ei hamser, a'r ŷch yn adnabod ei feddiannydd, ond y mae dyn yn ffolach na'r assynod gwylltion.
Er. Rhaid i ti ddangos yn helaethach pwy sydd ddedwydd, a pha rai sydd anned wydd, canys mae llawer math ar bobloedd a galwedigaethau. Beth hefyd a ddywedi di am y Pysygwyr, ac am y Gwyr o gyfraith? Di soniaist am lawer math o rai eraill o'r blaen.
Col. Mae'r pysygwyr yn lladd llawer corph dyn drwy ei hanwybodaeth, neu o chwant arian (fel y mae llawer pregethwr yn lladd eneidieu): ond y mae'r pysygwyr yn helpu rhai drwy rodd Duw. Os claf wyti, dos yn daer at Dduw; hefyd cais gan y rhai sydd yn y ffydd a'r ffafr nefol weddio drosot ti. Ac os cynghora Duw di, dos wedi hynny at y pysygwr. Ond na ddos atto fo yn gyntaf, rhag cael dy droi ymmaith yn ddiobaith. Ac am y Cyfreithwyr, cofia mai fel ac y mae pysygwr
Deut. xviii. 10, 11, 13, 15. 2 Iago ii. 19. 3 I Ioan v. 18. 4 Dat. ii. II. 5 2 Cor. vi. 2. 6 Jer viii. 7. 7 Es. i. 3. 8 Iago v. ffol yn llenwi'r fonwent yn llawn o gyrph meirwon, a'r pregethwr anneallus yn llenwi'r Eglwys ac opiniwnau gweigion, felly y mae'r cyfreithwyr annuwiol yn llenwi'r gymanfa ac ymrysonau trawsion. Ac fel mai gorau cyfraith cytundeb, felly gorau ffordd yw dioddef cam, a bod yn isel ac yn addfwyn; fe ddioddefodd Duw fwy o gam ar dy law di nag yr wyti iw ddwyn oddiar law dy gymydog.1
Er. Ond os goddefaf fi bob peth, mae dynion mor anrhesymol, nhwy dynnant fy llygaid i o'm pen o'r diwedd.
Col. Disgwil am gyfiawnder, nid oddiwrth ddynion ond oddiwrth Dduw, ac di ai cei yn ddiammau.2 Mae'r amser yn agos iawn yn yr hwn y caiff pawb ei eiddo, Nid yw'r cam y mae eraill yn i wneuthur a'th di ond fel pigiad chwannen wrth y cam a'r gorthrymder yr wyti yn i osod ar wddf dy enaid dy hun. Cofia hynny cyn mynd i'r gyfraith er dim. O mor chweinllyd anioddefgar yw llawer! Mor barod i'r gyfraith! Mor amharod i'r efengyl! yr hon a ddysg ddyn i roddi ei gochl i'r sawl a ddycco ei fantell, cyn cynhennu. Canys gwell yw dioddef y cam mwyaf, na bod yn y gynnen leiaf; ond bod fel oen mud dan law y cneifwyr, a mudan gwirion byddar yn mysg y cyhuddwyr.3
Ond gwae chwi,'r cyfreithwyr, mae cyfraith a'ch yssa. Gwae'r cynhennus mewn gwlad, pentewynion uffern ydynt. Gwae chwi, bysygwyr llofruddiog, mae liawer "Och!" wedi mynd i'r lan arall yn eich erbyn. Gwae chwi, wyr trawsion, yn llyngcu cyfoeth,5 rhaid i chwi chwydu'r cwbl gyda'ch gwaed eich hunain. Gwae chwi, yr uchelwyr drwg6 ei siamplau, yn llusco y tlodion ar eich ol i ddestryw; pa fodd y rhowchwi gyfrif am eich tenantiaid truain? beth a ddaw o honochwi pan dorrer a phan loscer pob peth uchel? 8Gwae bob pren mawr, a phob pren bychan, ar nad yw'n dwyn ffrwyth da; mae'r tân wedi ennyn yn Nghymrų; 1 Mat. v. 39, 40. 2 Ps. xcviii. 9. 3 Es. liii. 7. 4 Iago iii. 16. 5 Job xx. 15 6 Ps. x. 9, 10. 7 Job xxiv. 9. 8 Es. ii. 12; Mat. iii. 10; Zech. xi. 1; Preg. xi. 8, 9; xxiv. 5; Diar. vi. 13, 15; Mat. xxiii. Job xi. 11; Job; Job xxiv. 5 ; Diar. vi. 13, 15 ; Mat. xxiii.