Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llyfr y Tri Aderyn.pdf/94

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

ffol yn llenwi'r fonwent yn llawn o gyrph meirwon, a'r pregethwr anneallus yn llenwi'r Eglwys ac opiniwnau gweigion, felly y mae'r cyfreithwyr annuwiol yn llenwi'r gymanfa ac ymrysonau trawsion. Ac fel mai gorau cyfraith cytundeb, felly gorau ffordd yw dioddef cam, a bod yn isel ac yn addfwyn; fe ddioddefodd Duw fwy o gam ar dy law di nag yr wyti iw ddwyn oddiar law dy gymydog.1

Er. Ond os goddefaf fi bob peth, mae dynion mor anrhesymol, nhwy dynnant fy llygaid i o'm pen o'r diwedd.

Col. Disgwil am gyfiawnder, nid oddiwrth ddynion ond oddiwrth Dduw, ac di ai cei yn ddiammau.2 Mae'r amser yn agos iawn yn yr hwn y caiff pawb ei eiddo, Nid yw'r cam y mae eraill yn i wneuthur a'th di ond fel pigiad chwannen wrth y cam a'r gorthrymder yr wyti yn i osod ar wddf dy enaid dy hun. Cofia hynny cyn mynd i'r gyfraith er dim. O mor chweinllyd anioddefgar yw llawer! Mor barod i'r gyfraith! Mor amharod i'r efengyl! yr hon a ddysg ddyn i roddi ei gochl i'r sawl a ddycco ei fantell, cyn cynhennu. Canys gwell yw dioddef y cam mwyaf, na bod yn y gynnen leiaf; ond bod fel oen mud dan law y cneifwyr, a mudan gwirion byddar yn mysg y cyhuddwyr.3

Ond gwae chwi,'r cyfreithwyr, mae cyfraith a'ch yssa. Gwae'r cynhennus mewn gwlad, pentewynion uffern ydynt. Gwae chwi, bysygwyr llofruddiog, mae liawer "Och!" wedi mynd i'r lan arall yn eich erbyn. Gwae chwi, wyr trawsion, yn llyngcu cyfoeth,5 rhaid i chwi chwydu'r cwbl gyda'ch gwaed eich hunain. Gwae chwi, yr uchelwyr drwg6 ei siamplau, yn llusco y tlodion ar eich ol i ddestryw; pa fodd y rhowchwi gyfrif am eich tenantiaid truain? beth a ddaw o honochwi pan dorrer a phan loscer pob peth uchel? 8Gwae bob pren mawr, a phob pren bychan, ar nad yw'n dwyn ffrwyth da; mae'r tân wedi ennyn yn Nghymrų; 1 Mat. v. 39, 40. 2 Ps. xcviii. 9. 3 Es. liii. 7. 4 Iago iii. 16. 5 Job xx. 15 6 Ps. x. 9, 10. 7 Job xxiv. 9. 8 Es. ii. 12; Mat. iii. 10; Zech. xi. 1; Preg. xi. 8, 9; xxiv. 5; Diar. vi. 13, 15; Mat. xxiii. Job xi. 11; Job; Job xxiv. 5 ; Diar. vi. 13, 15 ; Mat. xxiii.