Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llyfr y Tri Aderyn.pdf/95

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

mae drws dy fforest di (O! wlad y Bruttaniaid presennol) yn agored i'r eirias dân; ac hefyd mae'r fwyall ar dy wreiddyn di-oni ddygi yr awron ffrwyth da, fe a'th dorrir rhag bod yn bobl. A gwae chwi,'r oferwyr, sy'n gwario ei hamser, ai hiechyd, ai harian, ai meddyliau tragwyddol mewn oferedd. Gwae di, lafurwr anwybodus; dy holl waith yw cloddio'r ddaiar, ai thrin, a throi'r anifeiliaid yn y mynydd, ac nhwy a gymmerant i troi gennit ti; am hynny, tystion ŷnt yn dy erbyn. Gwae di, ddarllenwr cyfrwysddrwg, yr hwn wyt yn chwilio llyfrau i ganfod lluniau neu feiau; fe genfydd y Gwirionedd dy feiau di, ac a'th farna. Gwae di, ragrithiwr, yr hwn wyt yn ofni golwg dyn; nid wyti yn ofni pechu yn y dirgel, di gei dy farnu yn yr amlwg. Gwae di, gardottyn heinif, segurllyd, na fynni weithio er lles i neb: lles ni cheisi, lles a golli. Gwae di, gydwybod gysclyd,1 yr hon (fel ci mud) wyt yn bradychu dy berchennog; mae amser hir i ti i udo. Gwae chwi sy'n ymgyrchu i'r dyrfa, yn hoyw eich ysbrydoedd, yn bwytta siwgwr chwant y cnawd yngyrfa diafol, ac yn carowsio eich eneidiau 2 ar fyrder ni bydd defnyn of ddwfr i ti iw gael i oeri blaen dy dafod. Gwae chwi, foneddigion drwg, sy'n llyfu chwys y tlodion, yn peri ich tenantiaid ochneidio, ac yn torri ei hescyrn: mae amser eich gwasgfa chwi yn prysuro heb oedi. Gwae chwi, offeiriaid mudion, yn caru llwynogod, yn cyfarth defaid; cŵn deillion, chwerwon, beilchion, diog, gwangcus, chwrnllyd, cysglyd, llydlyd, drewllyd; fe ach troir chwi oll allan o'r eglwys. A gwae5 chwi, holl hen Gymry sydd etto heb i hadnewyddu. Ond gwyn eich byd chwi sy'n hiraethus am Dduw, chwi gewch eich llenwi ac efo, ynddo, iddo.6 Gwyn eich byd chwi rai diwyd, ffyddlon, parhaus, chwi a gewch fendith_ar eich gwaith. Gwyn ei byd y gweddiwyr diragrith, nhwy a gant i gwrando bob amsEr. Gwyn ei byd ai gwadant ei hunain; ni wâd Duw mo honynt. Gwyn ei byd a gywir hauant wenith Duw; hwy gânt fwyn

1 Diar. xix. 15; Diar. vi. 10. 2 Iago v. 5; Jer. li. 39. 3 Amos iv. 1; Mic. iii. 3. 4 Es. lvi. 11, 5 Jer. xxiii. 6 Mat. v; Zech. x. I; Ps. 1. 3. 7 Jer. xxix. 13.