Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llyfr y Tri Aderyn.pdf/96

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

hau cnwd ysbrydol. Gwyn ei byd y rhai ysbrydol, canys gyda nhwy y mae cyfrinach Duw.2 Gwyn ei byd y gwiliadwrus, ni chaiff diafol afel arnynt. Gwyn ei byd y disgwilwyr distaw, 3fe ymwêl yr Arglwydd Iesu a hwynt. Gwyn ei byd y rhai a ddioddefant dros yr Oen, gyda'r Oen y teyrnasant. Gwyn ei byd y rhai a ddihunwyd ac a ddihunanwyd, byw a wnant yn Nuw ei hunan. Gwyn ei byd a barhânt hyd y diwedd mewn daioni, anrhaethadwy yw ei cyflog hwynt. Gwyn ei byd y llesg, gostyngedig, torredig ei calonnau, canys ynddynt hwy yr erys Duw. Gwyn ei byd y diniwed, ni all neb i niweidio. Gwyn ei byd blant bychain Duw, mawr yw ei ofal am danynt. Gwyn fyd weision grymmus y Ťad, eisteddant i wledda, a'r Oen ai gwasanaetha. Gwyn ei byd y rhai bodlon, dioddefgar, nid oes dim a all i cythruddo. Gwyn ei byd a arosant yn isel, nhwy a godir yn uchel. Gwyn ei byd a nofiant yn erbyn ffrwd naturiaeth, nhwy ddônt i'r môr llei mae'r ysbrydoedd sanctaidd. Gwyn ei byd a wnelont bobdaioni ar a wypont, nhwy gânt wybod a fynnont, a nerth newydd fel eryrod. Gwyn ei byd a rodiant gyda Duw, fel Enoch; Duw ai geilw ac ai derbyn o fysg dynion.5 Gwyn ei fyd y meddwl pur, llonydd, fe edwyn hwnnw Baradwys a Phren y bywyd. Gwyn ei fyd a ymprydio oddiwrth gnawdoliaeth, fe gaiff fwytta. manna Duw. Gwyn ei fyd a wrthodo holl bleserau'r cnawd, efe a ŷf o afon Duw. Ac (mewn un gair) Gwyn ei fyd yr ailenedig, hwnnw a anwyd i etifeddu pob peth. Duw sydd yn Dad iddo, ac yntau yn blentyn anwyl i Dduw. Yr Oen fydd ei oleuni, ac yntau fydd oleuni yn yr Arglwydd. Ni all dim i ddrygu, ond pob peth a gydweithia er lles iddo. Pan na allo ddal ei afael ar Dduw, fe ddeil Duw ei afael ar ei hâd ynddo. ef.9 Fe gaiff orphwys byth ynghalon Duw (yr hon yw ei Fab) pan fo llawer eraill byth yn ffrio ar y llechau

1 Marc iv. 2 Ps. xxv. 14. 3 Ps. xxvii. 14; Galar. iii. 26, 31; 2 Tim. ii. 12; 1 Ioan iii. 24; Dat. ii. 20; Es. lvii. 19; Phil. ii. 15; 1 Ioan ii. 12, 13., 4.Ioan vii. 17. 5 Heb. xi. 5. 6 Mat. v. 8. 7 Dat. xxi. 7. 8 Dat. vii. 17; Eph. v. 9 Rhuf. viii. 28.