Tudalen:Llynnoedd Llonydd.djvu/12

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn was y brenin gydag amcan clir,-gwneud y brenin oll yn oll. I wneud hyn penderfynodd ddadwaddoli'r eglwys, rhoi trefn ar ororau di-gyfraith Cymru a'r Alban, uno Lloegr a Chymru, a llwyr ddarostwng yr Iwerddon.

Gwladlywiaeth dramor,—heddwch.

At sicrhau heddwch cryfhaodd allu milwrol Lloegr a'i llynges; cadwodd ddau allu mawr Ewrob, Ffrainc a Spaen, ben-ben gwnaeth Harri'r Wythfed yn ben Protestaniaid Ewrob.

Dylanwadodd ei elynion ar ofn, blys, a chredo yr hen frenin, a thorrwyd pen Cromwell ar ganol ei gynlluniau. Ond aeth ei waith ymlaen.

LLAIS NA DDISTEWIR (John Milton).

Llais Milton yn dilyn y genedl. Cyfnodau o orffwys ac ymdrech bob yn ail yn hanes cenedl. Defodaeth a Phiwritaniaeth,—Laud a Milton.

Santeiddrwydd a phrydferthwch, Milton yn eu hedmygu ar wahan yn Il Penseroso a L'Allegro; y santeiddrwydd yn dyfnhau, y prydferthwch yn ymgysylltu â phechod, yn Comus; y ddau allu, santeidd- rwydd pur a swyn pechod, yn ymgysylltu ym meddwl Milton â phleidiau politicaidd y dydd yn Lycidas. Milton yn rhengau'r Piwritaniaid.

Buddugoliaeth y Piwritaniaid; siom Milton yn yr Areopagitica pan ddeallodd nad oedd y wasg i fod yn rhydd. Milton a rhyddid. Yn amddiffynnydd Cromwell a'r Weriniaeth yn yr Eikonoklastes a'r Defensio pro populo Anglicano.

Cwymp y Weriniaeth. Darlunio'r brwydrau a'r cynghorau yng Ngholl Gwynfa. Cred yn rhyddid yr enaid, mewn cymundeb uniongyrchol â Duw. Ffydd Milton yn y dydd blin. Llais na ddistewir

HANES CREFYDD.

JOHN CALFIN.

Geneva,—dinas brydferth ym mhresenoldeb Mont Blanc. Dyfodiad Calfin iddi yn Awst, 1535.