Y diwygiad yn Ffrainc cyn 1536. Y diwygwyr cyntaf, arweinwyr diwygiad moesol. Yr ymdrech i ennill Ffransis y Cyntaf a'r methu; chwalu'r diwygwyr o Baris gan erledigaeth greulon. Cyfreithiwr ieuanc,—John Calfin,—yn cyhoeddi yr Institutio Christiance Religionis ym Masel, a thrwy hynny'n uno'r diwygwyr.
John Calfin cyn 1536. Bachgen cyflym: anrheg o Feibl; astudio'r gyfraith yn Orleans a Bourges; yn efrydu'r Beibl mewn unigrwydd; pregethu mewn tai; y sacrament yn y goedwig; ei lythyr at frenin Ffrainc utgorn arian y Diwygiad.
Geneva cyn 1536. Dinas credo, rhwng mynyddoedd mawr. Ei hymdrech am ryddid gwladol a chrefyddol ; yn croesawu Farel a'r Diwygiad.
Geneva a Chalfin,—pen a chalon y Diwygiad yn Ffrainc. Yr ymdrech â'r Libertiniaid gartref. Gwylio a rheoli'r Diwygiad. Agor y Beibl i'r byd.
Bywyd Calfin, ei weithgarwch diderfyn, ei sel anhyblyg, ei galon gynnes, marw'n ddyn tlawd. Rhyddid a Chalfiniaeth yn gyson â'i gilydd
ADDOLI MAIR.
Olion addoli Mair yng Nghymru. Mair dychymyg y canol oesoedd.
I. Credu yn y gwyryfdod dihalog. Dadleuon bore ynghylch Mair. Distawrwydd y Beibl; yr efengylau gau. Cynnydd graddol yr athrawiaeth hyd Gyngor Chalcedon yn 415, pan y daeth y gwyryfdod dihalog yn rhan o gredo'r eglwys.
II. Mair yn dod yn dduwies,—"mam Duw," yn eiriol, yn dod yn wrthrych addoliad genethig a milwr. Yr hanes am dani yn Llyfr yr Aner yng Nghymru.
III. Credu bod Mair yn ddibechod erioed. Yn y canol oesoedd y tyfodd y gred hon, yn bennaf trwy bregethiad y Ffrancisciaid. Y Jesuitiaid a'r athrawiaeth. Ei gwneud yn rhan o gredo Eglwys Rhufain gan Pio Nono yn niwedd 1854.
Achosion yr addoliad,—hiraeth am yr hen dduwiesau paganaidd: camddeall ystyr purdeb, mai gwyryfdod yn unig sydd bur; camddeall natur Duwdod, gan dybio nad yw mor dyner a mam farwol; swyn tlysni'r celfau cain, pan ddarlunid Mair gan brif arlunwyr yr Eidal a Spaen.