Tudalen:Llynnoedd Llonydd.djvu/14

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y gwrthwynebwyr,—beirdd y canol oesoedd, a'r Diwygwyr Protestanaidd. Enw Mair ar flodau. Ystyr yr addoliad.

HANES LLENYDDIAETH.

LLENYDDIAETH Y SAESON.

Cyfnodau bywyd a meddwl cenedl, y rhamant, y ddrama, y nofel, beirniadaeth.

Tri chyfnod llenyddiaeth y Saeson,-I. Cyfnod y Rhamantau, 1100-1500; II. Cyfnod y Ddrama, 1500—1750. III. Cyfnod darlunio natur, 1750-1895. Y tri'n ateb i dri chyfnod hanes,—cyfnod yr uchelwyr, cyfnod y brenin, cyfnod y werin.

I. Cyfnod y Rhamantau, neu'r cyfnod ffeudalaidd. Defnyddiau Celtaidd y rhamantau yn iaith y Normaniaid; eu Seisnigio; eu dwyn i gyffyrddiad â bywyd Chaucer. Deffroad y werin, dechre gwlatgarwch.

II. Cyfnod y Ddrama, 1500-1750. Llenyddiaeth cenedl yn lle llenyddiaeth dosbarth. Llwybrau newydd a defnyddiau newydd. Pen llanw'r bywyd yn Shakespeare. Dirywiad y ddrama. Pregethu a rhyfel. Milton. Ymorffwys a gwanhau,—hanes, y nofel, beirniadaeth. Cewri'r adfeilion.

III. Cyfnod darlunio natur, 1750-1895. Datblygiad y gallu i weled tlysni natur wyllt. Wordsworth. Arwydd deffroad newydd, gwerth dyn, rhyddfreiniad gwraig, heddwch â'r storm ac â'r nos.

Beth fydd llenyddiaeth y Saeson?

GEM LLENYDDIAETH LLOEGR (Macbeth).

Macbeth Shakespeare yn brif ddrama bardd mwyaf Lloegr, yn berffeithrwydd datblygiad y meddwl Seisnig. Shakespeare yn byw yn ei oes, ac yn darlunio ei oes bob amser; Macbeth yn cynnwys gwleidydd- iaeth a moesoldeb yr oes honno ar eu cryfaf.

Macbeth yn ddanghoseg o deimlad yr oes; o deimlad gwleidyddol,-y gred mewn dwyfol hawl, ofn gwrth- ryfel, pwysigrwydd y brenin. Moesoldeb gwleidyddol goruchel y ddrama hon.

Cymeriadau Macbeth,-Macbeth ei hun a Lady Macbeth yn enwedig. Y dull gymerir i ddatblygu eu cymeriadau. Ardderchowgrwydd Shakespeare.