ei gred ym mharhad cenedlaetholdeb Cymru, yn enwedig mewn ystyr grefyddol, gwelir erbyn heddyw mai nid dinistr i undeb Prydain ydyw, ond nerth. Gwelodd Shakespeare fawredd Owen Glyn Dŵr,—ond y mae y niwl a chymylau o amgylch y mawredd, a thybiodd llawer Sais difeddwl fod y bardd yn cymeryd y tywysog yn ysgafn. Y mae mwy nag un ysgrifennydd Seisnig yn chwilio hanes Owen Glyn Dŵr heddyw; ac nis gwn am un ohonynt nad yw'n graddol synnu fod cymeriad mor ardderchog wedi bod ynghudd mor hir.
Gŵr parod.Rhyfedd iawn yw'r datguddiad, a phaham y tybiasom mai gwrthryfelwr dinod oedd y gwladweinydd oedd a'i fryd ar ail drefnu'r eglwys genedlaethol, ar godi prifysgolion, ac ar roddi cyfiawnder i feibion llafur oedd yn ceisio ymwared o ormes y cyfnod maenoraidd? Yr oedd Owen Glyn Dŵr, mae'n ddiameu, yn ŵr o feddwl beiddgar ac o gynllun parod, ac y mae'n amlwg fod yn ei gymeriad y dychymyg cryf sy'n darganfod bydoedd uwch, ac yn gweled y llwybr iddynt. Yr oedd wedi cael y fantais oreu i weled beth godai Gymru hefyd, treuliodd ei febyd yn nyffryn y Dyfrdwy ac ar lethrau'r Berwyn, a deffrodd ei feddwl tra'n astudio cyfraith yn Llundain, a thra'n dwyn arfau y milwr oedd wedi crwydro mwyaf, mae'n debig, o holl filwyr yr oes.
Cyflawnder amser.Ond cafodd gyfleustra hefyd. Prun bynnag a oedd hynny wrth ei fodd ai peidio, rhoddwyd angenrhaid arno i arwain cenedl, a chenedl fwy unol nag a welwyd ar fynyddoedd Cymru erioed o'r blaen. Tybiodd ef ei fod yn codi tarian ac yn dadweinio cledd Llywelyn, ac yr oedd yn credu'n gryf fod gwaed hen dywysogion Cymru yn ei wythienau. Ond yr oedd ei darian yn lletach nac un Llywelyn, a'i gleddyf yn rymusach. Nid arweinydd tywysogion yn unig oedd. ac nid tywysog rhan o Gymru. Yr oedd yn arweinydd cenedl gyfan, yr oedd gwŷr Gwent a Morgannwg yn